Fe fydd y band, Ysgol Sul, yn ailffurfio nos Sadwrn (Rhagfyr 8) i nodi diwedd cyfnod yn hanes cynnal gigs yn nhref Caerfyrddin.

Mae canolfan Y Parot, eisoes wedi datgan eu bod yn cau’r drysau oherwydd problemau ariannol – ond mae nifer o fandiau eisiau dangos pa mor ddylanwadol mae’r lle wedi bod o ran tyfu’r sin roc yn lleol.

Mae’r triawd Castro, hefyd yn ail ymddangos, yn ogystal â Los Blancos ac ARGRPH; tra bydd Accü, Adwaith a Recordiau Libertino yn gwneud set DJ.

Cartref

Yn ôl sylfaenydd label Recordiau Libertino, Gruff Owen, sydd yn cyflwyno’r noson, mae’r enwau sy’n chwarae ar y noson yn “dangos datblygiad” bandiau sydd wedi cael llwyfan oherwydd clwb Y Parot.

“Mae aelodau’r bandiau yma wedi dod i weld eu gigs cyntaf yn Y Parrot ac wedi chwarae am y tro cyntaf yn Y Parot,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw i gyd wedi cael eu cartref bach yno felly mae’n bwysig dod a phawb nol at ei gilydd i ddathlu.”

Ysgol Sul wedi newid safbwynt…

Fe fydd hwn yn gyfle prin i weld Ysgol Sul, band wnaeth ddarganfod cartref creadigol yn Y Parot cyn tyfu i fod yn un o grwpiau mwyaf adnabyddus Cymru.

“Ysgol Sul, i fi, oedd y band cyntaf o’r ardal wnaeth ddechrau newid safbwynt pobol tuag at gerddoriaeth y Gorllewin – o’r genhedlaeth yma beth bynnag”, meddai Gruff Owen.

Daeth y triawd – sy’n cynnwys Iolo Jones ar y gitâr a llais; Cian Owen ar y bas; a Llew Davies ar y drymiau, at ei gilydd yn 2014, cyn gwahanu yn 2017. Nhw oedd enillwyr Brwydr y Bandiau 2014 a gwobr Band Newydd Gorau gwobrau’r Selar yn 2015.

Ac wedi dylanwadu…

Un o’r bandiau mwyaf i ddod allan o Gaerfyrddin yn ddiweddar, ac sy’n chwarae ar y noson – yw Los Blancos, sydd ar label Libertino.

Mae’r Parot wedi “chwarae rhan allweddol” ym mywyd Dewi Jones, sy’n chwarae bas ac yn canu yn y band.

Mae’n son am ei brofiad yn gweld “sin newydd yn datblygu” yn Y Parot wrth wylio bandiau fel Ysgol Sul, Tymbal, Castro ag Adwaith.

“Wnaeth ‘rhain chwalu’r stereoteip bod diwylliant Cymreig yn hen neu’n ddiflas, a phrofi bod modd creu cerddoriaeth uchelgeisiol,” meddai wrth golwg360.

“Taniodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth amgen, gan arwain at y penderfyniad i ddechrau band gyda fy ffrindiau,”

“Chwerwfelys” yw’r ffordd mae Dewi Jones yn disgrifio ei deimladau o flaen y noson.

“Ar un llaw mae’n drist, ac mae yna deimlad bod cyfnod anhygoel yn dod i ben, ond ar y llaw arall ni’n ddiolchgar am yr holl gefnogaeth mae’r Parot wedi rhoi i ni dros y blynyddoedd.”