Bydd ffigyrau amlwg o fyd cerddoriaeth Cymru yn ymgynnull yng Nghaerfyrddin tros y penwythnos er mwyn trafod dyfodol sin gerddorol y gorllewin.

Daw’r cyfarfod wedi i glwb ‘Y Parot’ – lle cyfarwydd i sawl un o fandiau’r Sîn Roc Gymraeg – ddatgan y byddan nhw’n cau ar ddiwedd y flwyddyn.

Un o’r rheiny a fydd yn y cyfarfod yw Gruff Owen, sefydlydd label Libertino Records, ac un o ysgogwyr amlwg yn y sîn yng Nghaerfyrddin.

Hoffai weld y Parot yn aros ar agor, ond mae yn cydnabod bod angen cynnal trafodaeth “fwy eang” yfory (Tachwedd 24).

“R’yn ni’n gobeithio trafod gwahanol opsiynau ynglŷn â sut mae modd cadw’r Parot i fynd, a hefyd cefnogi’r sîn gerddorol,” meddai wrth golwg360.

“Heb venues does gen ti ddim byd – dim cartref ar gyfer sîn. Os ydy’r Parot yn mynd, does gen ti ddim unman o Sir Benfro hyd at Abertawe ar gyfer cerddoriaeth amgen – cerddoriaeth wreiddiol.

“Beth sydd angen edrych arno yw, sut mae modd parhau i gefnogi’r sîn yn y gorllewin, a sut mae sicrhau bod camau positif y blynyddoedd diwethaf yn parhau.”

Y cyfarfod

Un opsiwn, meddai Gruff Owen, yw cynnal “gigiau pop up”, ac opsiwn arall yw cymryd mantais o lefydd eraill yng Nghaerfyrddin gan gynnwys canolfan newydd yr Egin.

Mae hefyd yn tynnu sylw at Le Pub – man gigiau yng Nghasnewydd sydd dan berchnogaeth gymunedol – fel model posib i’w efelychu.

Ar banel cyfarfod ‘Ceffyl Blaen’ bydd Gruff Owen; cyn-aelod o fand yr Anhrefn a’r Cyflwynydd, Rhys Mwyn; y cerddor o ACCÜ, Angharad Van Rijswijk; a sawl un arall.