Mae Zoe Ball yn dweud ei bod hi “wrth ei bodd” o fod y ferch gyntaf erioed i gyflwyno sioe frecwast BBC Radio 2.

Daeth cadarnhad y bydd hi’n cymryd yr awenau yn y flwyddyn newydd yn sgil penderfyniad Chris Evans i gamu o’r neilltu yn dilyn genedigaeth ei efeilliaid.

Y sioe frecwast yw rhaglen fwyaf poblogaidd yr orsaf.

“Mae cael bod y ferch gyntaf i gyflwyno’r rhaglen arbennig hon yn fraint ac yn anrhydedd,” meddai.

“Credwch chi fi, dw i ddim yn tanbrisio maint y dasg sydd o’m blaen wrth ddilyn nid un ond dau o’m harwyr darlledu ar sioe sy’n cael ei charu gymaint.”

Gyrfa Zoe Ball 

Ymunodd Zoe Ball â Radio’r BBC yn 1997 fel cyd-gyflwynydd sioe frecwast Radio 1 gyda Kevin Greening, gan fynd ymlaen i gyflwyno ar ei phen ei hun rhwng 1998 a 2000. Fe fu’n gyflwynwraig gyson ar yr orsaf ers 2006, gan lenwi esgidiau nifer o’r prif gyflwynwyr yn ystod gwyliau a chyfnodau o salwch.

Rhwng 2009 a 2012, cyflwynodd hi’r rhaglen frecwast ar fore Sadwrn, cyn mynd ymlaen yn 2017 i gyflwyno’r rhaglen brynhawn Sadwrn.

Pan fydd Zoe Ball yn sâl neu ar ei gwyliau, y gyflwynwraig dros dro bresennol, Sara Cox fydd yn cyflwyno’r rhaglen, fel y bu’n gwneud ers 10 wythnos.

Fe fydd y BBC yn cyhoeddi maes o law pwy fydd yn cyflwyno rhaglen brynhawn Sadwrn Zoe Ball.