Roedd bron i draean o bobol a aeth i weld gigs cudd adeg yr Eisteddfod, wedi cael eu hysbrydoli i fynd i’r brifwyl yn eu sgil.

Dyna un o ganfyddiadau Llywodraeth Cymru yn dilyn gwerthusiad o’u gigs SHWSH adeg Eisteddfod eleni yng Nghaerdydd.

Cafodd y perfformiadau eu cynnal mewn rhannau gwahanol o’r brifddinas, ac roedd rhaid anfon neges er mwyn medru darganfod lle yr oedden nhw.

Ymhlith yr artistiaid a oedd yn perfformio oedd Gwenno, Chroma, Mellt a Papur Wal; ac mae’n debyg gwnaeth dros 450 fynd i brofi’r gigs.

Canfyddiadau

Mae gwerthusiad y Llywodraeth yn dweud bod:

  • 56% eisoes wedi bwriadu mynd i’r Eisteddfod yng Nghaerdydd cyn clywed am SHWSH
  • 29% wedi eu hysbrydoli i fynd i’r ŵyl gan SHWSH
  • 91% yn barod i fynd i ragor o gigiau SHWSH yn y dyfodol
  • 92% yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, neu’n bwriadu gwrando ar fwy ohoni
  • 80% wedi ymweld â’r Eisteddfod cyn eleni

Annog y di-Gymraeg

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, “rhaid annog oedolion i ymddiddori yn yr iaith a’i dysgu” ac mae gigs SHWSH wedi cyfrannu at hynny, meddai.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i ysbrydoli pobol i gofleidio’r iaith a’r holl fanteision diwylliannol a ddaw yn sgil hynny,” meddai Eluned Morgan.

“Dw i wrth fy modd felly fod SHWSH wedi cael effaith bositif yn annog poobl na fyddent wedi mynd i’r Eisteddfod fel arall i fynd yno ac i weld beth oedd ganddi i’w chynnig.”

Beirniadaeth

Mae’r gigs SHWSH wedi cael eu beirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu bod yn ddwyieithog ac yn “rhoi’r argraff fod rhaid cael y Saesneg i ‘gefnogi’ y Gymraeg”.

Ac mae pobol oedd ynghlwm â threfnu gigs eraill adeg yr Eisteddfod wedi cwyno wrth golwg360, gan ddweud bod y gigs SHWSH wedi tynnu pobol o’u digwyddiadau nhw.

Fe dderbyniodd y gigs nawdd o £15,000 gan Lywodraeth Cymru, er mwyn marchnata’r gigs, cynnal gwasanaeth tecst, a thalu am leoliadau, bandiau ac offer sain.