Fe gafodd wythnos o gigs dwyieithog adeg yr Eisteddfod Genedlaethol gyllid o £15,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y Llywodraeth, roedd hyn ar gyfer marchnata’r gigs cudd yng Nghaerdydd, y gwasanaeth tecst oedd yn rhoi manylion y digwyddiadau a thalu am leoliadau, bandiau ac offer sain.

Does dim cost derfynol ar gyfer gigs SHWSH eto, gan nad oes pob anfoneb wedi’i dderbyn.

“Cyllid o £15,000 oedd gan y prosiect SHWSH,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Mae hwn yn cynnwys marchnata a’r gwasanaeth tecst yn ogystal â thalu am y lleoliadau, bandiau ac offer sain.

“Nid yw’r swm terfynol ar gael hyn o bryd, gan nad ydyn ni wedi derbyn pob anfoneb eto. Bydd gwerthusiad llawn o’r prosiect yn dilyn maes o law.”

Beirniadu gigs dwyieithog

Cafodd prosiect SHWSH, oedd yn cael ei threfnu dan raglen hyrwyddo’r Gymraeg y Llywodraeth, ei feirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am “roi’r argraff fod rhaid cael y Saesneg i ‘gefnogi’ y Gymraeg”.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai pwrpas y gigs oedd agor y sin gerddoriaeth Gymraeg i bobol sydd ddim yn ymwneud â’r Eisteddfod.

Dywed fod y trefnwyr wedi bod yn gweithio gyda hyrwyddwyr lleol, sydd ddim fel arfer yn trefnu gigs Cymraeg/dwyieithog, gyda’r bwriad iddyn nhw barhau i drefnu gigs Cymraeg yn y dyfodol.

Mae hefyd yn dweud bod gwybodaeth wedi bod yn y gigs am ddigwyddiadau eraill yr Eisteddfod, fel gigs Maes B a gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ond mae pobol oedd ynghlwm â threfnu gigs eraill adeg yr Eisteddfod wedi cwyno wrth golwg360, gan ddweud bod y gigs SHWSH yn tynnu pobol o’u digwyddiadau nhw.

Cynllun peilot oedd y prosiect adeg yr Eisteddfod a’r gobaith yw cynnal mwy o gigs SHWSH mewn lleoliadau eraill yng Nghymru yn y dyfodol.