Fe fydd dros ddwsin o ffrindiau yn seiclo o Wynedd i Iwerddon ddiwedd y mis, er cof am gerddor fu farw yn gynharach eleni.

Roedd Iwan Huws, 34, yn adnabyddus i lawer fel drymiwr i’r band Yucatan, a bu farw ym mis Ionawr ar ôl llithro ar fynydd Tryfan, Eryri.

Bellach mae ‘Cronfa Iwan Huws’ wedi’i sefydlu er mwyn codi arian at achosion a oedd yn agos at galon y cerddor – ac er mwyn nodi lansiad y gronfa, fe fydd criw o’i gyfeillion yn teithio o Ben-y-groes (ger Caernarfon) i Galway ar gefn beiciau, rhwng Mehefin 28 a 30.

Ar ôl cyrraedd Galway ar yr union ddyddiad a fyddai wedi bod yn ben-blwydd y drymiwr yn 35 oed, fe fyddan nhw’n cwrdd â theulu’r cerddor i nodi’r dyddiad. Wedi hynny, mi fyddan nhw’n teithio i gartref y sioe deledu Father Ted – hoff gomedi teledu Iwan Huws – ac yn cael te prynhawn er cof amdano.

“Cefnogaeth”

“Roedd [Iwan Huws] yn ffodus i gael grŵp mor anhygoel o ffrindiau, ac rwy’n lwcus iawn i gael eu cymorth a’u cefnogaeth wrth i ni alaru amdano,” meddai ei bartner, Elin Gwyn.

“Gobeithio y bydd y Gronfa yn galluogi eraill i gyflawni rhai o’r pethau yr oedd Iwan yn angerddol amdanyn nhw.”