Bu farw DJ Fontana, y drymiwr a fu’n gefn i Elvis Presley ar hyd ei yrfa. Roedd yn 87 oed.

Bu farw’n dawel yn ei gwsg nos Fercher (Mehefin 13), wedi diodde’ rhai cymhlethdodau ar ol torri asgwrn ei glun yn 2016.

“Roedd pawb yn ei garu,” meddai ei weddw, Karen, mewn datganiad. “Roedd yntau’n trin pawb fel ffrind.”

Fe fu gyrfa gerddorol DJ Fontana ei hun yn un a aeth ag ef o glybiau merched hanner noeth yn Shreveport, Louisiana, i rai o lefydd gorau’r byd roc a rol.

Fe gyfarfyddodd ag Elvis Presley ar raglen gerddoriaeth ddylanwadol y Louisiana Hayride yn 1954.