Mae canwr un o’r bandiau Cymraeg fydd yn chwarae ym ‘Mhenwythnos Mwyaf’ y BBC dros y penwythnos, wedi croesawu’r ffaith bod artistiaid Cymraeg yn perfformio yno.

Bydd yr ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn Abertawe rhwng Mai 25 a 28, gyda rhai o artistiaid mwyaf y byd yn cymryd rhan, gan gynnwys Taylor Swift ac Ed Sheeran.

Ac yn chwarae ar lwyfan BBC Introducing yr ŵyl ym Mharc Singleton, bydd pedwar band Cymraeg: Serol Serol, Chroma, Band Press Llareggub a Mellt.

Gan atseinio pryderon sawl un arall, mae Glyn Rhys-James – prif leisydd Mellt – yn cydnabod y gallai fod rhagor o fandiau Cymraeg yno. Ond, mae’n croesawu’r ffaith bod rhai ohonyn nhw yna o gwbl.

“Yn bendant, mi allai fod mwy o fandiau Cymraeg,” meddai Glyn Rhys-James wrth golwg360. “Mae lot o fandiau Cymraeg really da, sydd wedi colli mas ar gyfle da iawn i gael eu miwsig nhw mas.

“Ond ar yr un pryd, mae’n really dda gweld unrhyw fandiau Cymraeg ‘na. Achos yn y gorffennol dyw bandiau Cymraeg ddim wedi cael cyfle i chwarae stwff fel hyn.”

Torfeydd

Wedi hen arfer chwarae i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith – yn ogystal â roc eu chwaith – mae Glyn Rhys-James yn edrych ymlaen at y cyfle i berfformio o flaen “crowds gwahanol iawn”.

“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol gweld faint o bobol sy’n dod i weld bandiau fel ni,” meddai. “Oherwydd dim ni yw eich cup of tea os ydych chi’n chwilio am enwau o’r siartiau.”

A gan eu bod newydd gyhoeddi albwm newydd, Mae’n hawdd pan ti’n ifanc, mae’r cryts o Aberystwyth yn falch o’r cyfle i arddangos eu deunydd ffres.

“Stwff off yr albwm yw rhan fwyaf o’r set,” meddai Glyn Rhys-James. “Popeth, mwy neu lai.

“Rydym ni’n edrych ymlaen, achos o’r gigs ‘nathon ni gael ar ôl rhyddhau’r albwm, roedd e’n amlwg bod pobol wedi gwrando [a dysgu’r] geiriau.”

Y Bandiau Cymraeg

Dydd Sadwrn (Mai 26): Band Press Llareggub 19.00, Chroma 18.15, Mellt 17.30

Dydd Sul (Mai 27): Serol Serol 17.30