Mae’r band slacyr Los Blancos wedi newid eu canwr ar gyfer eu caneuon diweddara’.

Hyd yma mae’r grŵp o ochrau Caerfyrddin wedi rhyddhau tair cân sef ‘Datgysylltu’, ‘Chwarter i Dri’ ac ‘Mae’n Anodd Deffro Un’, gyda’r aelod Gwyn Rosser yn canu ar bob un.

Ond, gyda’u sengl A dwbl diweddara’ – ‘Cadi /Clarach’- mae aelod arall o’r grŵp, chwaraewr  y gitâr fas, Dewi Jones, wedi camu i’r adwy, a rhoddi ei lais i drac.

Mae Gwyn Rosser yn croesawu hyn gan nodi ei fod yn “neis amrywio pethau”.

Cydweithio

“Mae fe gyd amdano cydweithio,” meddai Gwyn Rosser wrth golwg360. “A bownsio syniadau off ein gilydd. Mae’n neis achos mae’n haws sgwennu fel hynna. Mae’r broses yn lot fwy pleserus basen i’n dweud.

“Mae lot mwy o drafod a chydweithio yn mynd ‘mlaen – a dw i’n credu bod hynna’n dangos. Bydd mwy o ganeuon yn awr gyda Dewi yn canu.”

Gitarydd y band, Osian Owen, wnaeth sgwennu’r gerddoriaeth i Cadi, ac mae’n debyg y bydd yntau i’w glywed yn canu ar ganeuon y band yn y dyfodol.

Maes B

Mae’r band yn rhagweld haf prysur gyda chynlluniau ar y gweill i recordio albwm, a llu o gigiau yn eu hwynebu – gan gynnwys slot  Maes B.

Dyma fydd eu perfformiad cyntaf yno, ac wrth drafod lein-yps eleni, mae Dewi Jones yn canmol trefnwyr y digwyddiad am roi cyfle i “waed newydd”.

“Mae Maes B wedi cael ei feirniadu dros y blynydde diwetha’ gan fod yr un acts yn cael eu recyclo trwy’r amser,” meddai Dewi Jones wrth golwg360.

“Roedd lot o bobol yn gweud hynna. Chi’n gallu gweld bod nhw wedi ymateb i shwd mae pobol wedi bod yn lleisio’u barn.

“Mae angen rhoi clod lle mae’n ddyledus. Maen nhw wedi bod yn gwrando ar bobol. Ac mae’n neis gweld bandiau newydd yn cael cyfle i chwarae.”

“Mae’n braf gweld bod Bryn Fôn ddim arno!” meddai Gwyn Rosser.