Mae teyrngedau wedi’u rhoi i gerddor 36 blwydd oed o’r Alban a fu farw.

Yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, roedd Scott Hutchinson   “yn dalent gwych a phoblogaidd”.

Cafodd corff canwr y band Frightened Rabbit, ei ddarganfod ddydd Iau (Mai 10), yn ardal Port Edgar ger Caeredin.

Diwrnod yn gynt, mi roedd heddlu wedi derbyn adroddiadau ei fod ar goll.

Mewn datganiad mae ei deulu yn ei alw’n “fab, brawd, ewythr a ffrind hyfryd”, a’n awgrymu ei fod wedi brwydro ag iselder.

“Roedd yn angerddol a’n garismatig, ac ef oedd un o’r bobol fwyaf doniol a charedig roeddem ni’n gwybod,” meddai’r teulu.

“Newyddion ofnadwy” meddai Alex Kapranos, prif leisydd y band Franz Ferdinand, ar wefan Twitter.