Mae actores o Gastell-nedd wedi dweud wrth golwg360 fod yr heriau sy’n wynebu pobol ddigartref yn yr ardal wedi ei sbarduno i drefnu digwyddiad yn Abertawe y penwythnos hwn.

Yn ôl ystadegau, roedd cynnydd o 21% yn nifer y bobol ddigartref yn rhanbarth Bae Abertawe yn ail hanner y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn sgil y digwyddiad yng Nghanolfan Lifepoint nos Sadwrn (Chwefror 3) yn mynd i elusennau lleol, gan gynnwys Wallich, Crisis, Shelter a Lifepoint.

Ar y noson, fe fydd adloniant gan artistiaid y ‘Welsh Factor’, a bydd gwasanaeth ymbincio’n cael ei ddarparu gan gwmnïau Retro Salon, Beauty Licious a Forever Living.

‘Gwneud gwahaniaeth’

Mae’r cyfan wedi’i drefnu gan Samira Mohamed Ali, actores sydd wedi ymddangos ar sgrîn Bollywood yn y ffilm Badshah (2014) ac sy’n aelod allweddol o dîm cwmni ffilm Tanabi yn Abertawe.

“Roedd canolfan Lifepoint eisiau cynnal digwyddiad ar gyfer tair prif ardal y rhanbarth – Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot – a chynnig noson i godi’r ysbryd ar ôl cyfnod tawel yn dilyn y Nadolig,” meddai wrth golwg360.

“A dyma ni’n trefnu noson hyfryd i bobol ddigartref gael teimlo fel gwesteion arbennig am noson.

“Mae yna broblemau mawr o hyd ac mae niferoedd y bobol ddigartref ar gynnydd, ac nid yn gostwng, wrth i bobol wynebu sefyllfaoedd heriol.

“Rydym yn gobeithio cynnig noson sy’n gwneud gwahaniaeth er mwyn dangos bod ots gennym, ac fe fydd darparwyr gwasanaethau ar gael i gynnig cefnogaeth barhaus i adeiladau perthynas er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol i’w tynnu nhw allan o sefyllfaoedd anodd maen nhw ynddyn nhw.”