Mae aelodau band The Cranberries yn dweud eu bod “yn torri eu calonnau” yn dilyn marwolaeth aelod o’r band ddoe, Dolores O’Riordan, gan ddweud “mae’r byd wedi colli gwir artist”.

Roedd y cerddor yn Llundain ar gyfer sesiwn recordio pan fu farw’n sydyn yn 46 oed.

Mae’r band – Noel a Mike Hogan a Fergal Lawler – wedi postio neges ar Twitter yn dweud: “Rydyn ni’n torri ein calonnau yn dilyn marwolaeth ein cyfaill Dolores. Roedd hi’n dalent anhygoel ac rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i fod wedi bod yn rhan o’i bywyd ers 1989 pan ddechreuon ni The Cranberries. Mae’r byd wedi colli gwir artist.”

Fe ddaethpwyd o hyd i’r gantores yn farw mewn gwesty yn Park Lane, Llundain, ac mae’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un “sydyn”.

Roedd y gantores, o Friarstown, Kilmallock yn Iwerddon, yn enwog am ei llais nodedig ac roedd y band wedi mwynhau llwyddiant ysgubol yn y 1990au gyda thraciau gan gynnwys ‘Zombie’ a ‘Linger’.