Mae un o rocwyr enwoca’r byd wedi cyhoedd ei fod wedi cyflawni uchelgais oes – trwy ddringo’r Wyddfa 100 o weithiau.


Matt Letley
Ac, er mwyn gorffen y gamp, roedd Matt Letley, drymiwr y band Status Quo, wedi dringo’r mynydd ddwywaith mewn diwrnod a chymryd rhan mewn gig y noson honno.

Fe gyrhaeddodd y cant wrth i’r band roc a rôl deithio o amgylch gwledydd Prydain mewn taith o’r enw Quid Pro Quo, sy’n digwydd 40 mlynedd ers iddyn nhw ddod yn enwog am y tro cynta’.

Roedd Matt Letley wedi cerdded i ben mynydd ucha’ Cymru a Lloegr am y tro cynta’ pan oedd yn saith oed ac mae hefyd yn rhedwr.

‘Gwallgo’

Yn ôl un arall o aelodau’r band, Rick Parfitt, roedd y gamp yn profi bod Matt Letley yn “wallgo” – am ddringo’r mynydd 100 gwaith ac am wneud hynny ddwywaith mewn diwrnod.

Y noson honno, roedd Quo yn canu yn Warrington – yn ôl Matt Letley ei hun, doedd drymio ddim yn broblem ond roedd hi’n anodd dringo ar y stôl i wneud hynny.