Wrth i 2017 ddirwyn i ben, mae rheswm da gan un o ffans mwyaf Elvis Presley i edrych ymlaen at 2018, ac yntau wedi llenwi ei ddyddiadur gyda chyngherddau a pherfformiadau tan fis Tachwedd.

Y Parchedig Wynne Roberts, caplan Ysbyty Gwynedd, yw’r ‘Elvis Cymraeg’, ac mae’n perfformio ar hyd a lled Cymru a Lloegr, yn rhoi teyrnged i’w arwr cerddorol.

“Pan oedd pawb arall yn mynd i mewn i’r ysgol efo record y Beatles, ro’n i’n mynd i mewn efo record Elvis,” meddai wrth golwg360 ar ddiwedd ei gyngerdd diweddaraf yn Nhŷ Tawe, Abertawe.

“Dw i’n rhoi teyrnged i Elvis, ond nid fel impersonator. Ond mae’n rhaid i be’ dw i’n wneud ar y llwyfan atseinio be’ oedd o’n wneud ac mae hynna’n cynnwys y dillad dwi’n wisgo hefyd.

“Ond wnes i benderfynu o’r dechra bo fi’m yn mynd i wisgo jumpsuit fel oedd o. Ond doedd Elvis ddim yn eu gwisgo nhw drwy’r adeg chwaith ac oedd o ddim bob tro’n gwisgo gwyn. Mae’n cynnwys y modrwyau i gyd sy gynno fi, yn debyg i’r modrwyau oedd gynno fo. Achos mae’r rhai sy’n dilyn Elvis yn mynd i chwilio am hynna i gyd pan bo nhw’n dod i wrando arna i.” 

Canu yn Gymraeg

Ond yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r dynwaredwyr eraill sy’n canu caneuon y ‘Brenin’, yn y Gymraeg y mae e’n rhoi ei deyrnged unigryw yntau, gan ddweud ei fod “yn gweld yr angen i ddwyn caneuon Elvis at sylw holl bobl Cymru!”

“Mae’n bwysig i bobol Cymru gael clywed caneuon Elvis yn eu mamiaith,” meddai. “Y rheswm wnes i ddechra gwneud hyn, dw i’n meddwl, oedd am bo fi’n mynd i ganu lot o gwmpas cartrefi henoed, lle mae pobol mewn oed yno. Iddyn nhw, oeddan nhw bob tro pan o’n i’n canu Elvis yn Saesneg yn troi rownd ac yn deud, “Ydach chi’n gwybod rhywbeth yn Gymraeg?”, sy’n naturiol achos dyna ydi’u hiaith ysbrydol nhw mewn un ystyr.

“Ac felly wnes i benderfynu bod rhaid i mi ddysgu ychydig o’r caneuon yma yn Gymraeg hefyd.”

Cyfieithu ac addasu caneuon

Cyfuniad o gyfieithiadau Dr Tanya Jenkins a geiriau Cymraeg gwreiddiol wedi’u gosod i alawon Elvis yw’r rhan fwyaf o ganeuon yr Elvis Cymraeg – yn eu plith mae ei fersiwn o Blue Eyes Crying In The Rain y mae’n ei chanu gan ddefnyddio geiriau Calon Lân.

Ac yntau’n gaplan, mae crefydd hefyd yn chwarae rhan amlwg yn ei waith ac mae modd gweld hynny yn ei fersiwn Gymraeg o How’s The World Treating You?, sef Efengyl Tangnefedd.

“Mae’n gallu bod yn anodd,” meddai, “Yn un o’r caneuon sy’n sôn am ‘frying chicken‘, yn America dyna’r arogl mae pobol yn licio cael. Ond yn y cyfieithiad ’sgen i, cinio dydd Sul ydi o achos i bobol Cymru, cinio dydd Sul yw’r arogl sydd yn dod ag atgofion yn ôl.

“Union yr un fath efo The Girl Of My Best Friend. Yn y Gymraeg, “hi yw ‘nghariad cudd“. Mae’n meddwl yr un peth ond rwyt ti’n defnyddio termau lle mae pobol Cymru’n adnabod y geiriau.”

Cyfuno caplaniaeth a chanu

Mae Wynne Roberts yn gwrthod yr awgrym fod gwahaniaethau mawr rhwng ei waith fel caplan a’i hunaniaeth amgen fel Elvis Cymraeg.

“A bod yn onest, mae’r ddau wedi plethu efo’i gilydd erbyn rwan. Dros y tair neu bedair wythnos diwetha’ ’ma, dw i wedi bod yn mynd o gwmpas yn canu caneuon Nadoligaidd Elvis o gwmpas ysbytai i gyd.”

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fu’n canu i gleifion ar Ward Alaw, sef uned ganser Ysbyty Gwynedd.

“Doedd y teledu ddim yn gweithio ac felly, fe gafon nhw Elvis i mewn i ganu iddyn nhw. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn defnyddio fi gryn dipyn i fedru canu. Os oes rhywbeth arbennig yn digwydd, maen nhw’n cael fi allan i ganu yn fanno.

“Tydi o ddim yn ‘fywyd Wynne’ a ‘rhoi teyrnged i Elvis’. Mae’r ddau wedi plethu hefo’i gilydd mewn un bywyd.

Ychwanega: “Mae pobol yn meddwl amdana i fel Elvis pan dw i’n cerdded o amgylch yr ysbyty ac felly, mae’n rhaid i be’ dw i’n wneud fod o safon uchel a hefyd, mae’n rhaid iddo fo fod yn rhywbeth sy’n rhoi parch iddo fo ond hefyd, parch i’r gymuned lle dw i’n byw o’i chwmpas hefyd.”

Ac mae’r ‘Elvis Cymraeg’ wedi cael y cyfle i berfformio mewn ambell i eglwys, hyd yn oed.

“Un peth dw i’n wneud ydi rhoi cyngherddau caneuon ffydd Elvis mewn eglwysi. O’n i’n gwneud un wsos diwetha’. Mwya’ sydyn wyt ti’n gweld y gweinidog neu’r offeiriad yn deud, “Mae’r Eglwys yn llawn, dydi hi ddim wedi bod yn llawn ers blynyddoedd!”

Pwysigrwydd canu mewn ysbytai

I Wynne Roberts, mae perfformio fel Elvis Cymraeg mewn ysbytai yn golygu tipyn mwy na dim ond perfformio.

“Mae’n bwysig ofnadwy, yn enwedig efo pobol sy’n gorfod byw efo dementia. Dw i’n gwneud cryn dipyn efo hynny, lle dw i’n gwneud sesiynau efo nhw, cyngherddau mewn cartrefi henoed ac yn y blaen.

“Be’ dw i’n weld ydi rhywun sy’n bedwar ugain oed ac sy’n gorfod, yn anffodus, byw efo dementia ac yn sydyn, pan dw i’n canu “Wise men say only fools rush in” neu Wonder Of You neu’r rhai Cymraeg oherwydd mae’r dôn yn bwysig hefyd, wyt ti fwya’ sydyn yn sylweddoli bod y person yma wedi mynd yn ôl i fod yn un ar hugain unwaith eto.”