Mae Marged Siôn, 25, yn byw yn Llundain ac yn creu cerddoriaeth R’n’B, soul, jazz ac electroneg.

Yn Saesneg y mae hi’n canu gan amlaf, ac mae’n dweud ei bod wedi troi at wneud hynny gan nad oedd yr un fenyw yn y sin roc Gymraeg yn ei hysbrydoli pan oedd hi yn ei harddegau yng Nghaerdydd.

“I fod yn onest, y rheswm wnes i ddim dechrau canu yn y Gymraeg oedd achos bod dim menywod gennyf i i edrych lan ato,” meddai.

“Pan oeddwn i lot yn iau, 10 mlynedd yn ôl nawr, doedd dim merched o gwbl. Yr unig fenyw oeddwn i’n gwybod amdano oedd yn canu oedd Caryl Parry Jones, Heather Jones, and that was it, a Gwyneth Glyn ac roedd hwnna’n un genre o gerddoriaeth fi ddim really mewn iddo.

“Doedd dim flamboyancy, doedd dim risqué, ac roedd e i gyd yn really band based. Roeddwn i wedi cael fy nhroi i ffwrdd yn syth, doeddwn i ddim eisiau cael dim byd i wneud gyda fe. Roeddwn i’n edrych ar bobol fel Amy Winehouse ac Annie Lennox, a phobol fel yna.”

“Cymaint o ferched” yn cael eu haflonyddu

Mae newydd gyhoeddi EP newydd o’r enw Radical Softness a dywed bod llawer o’i cherddoriaeth yn ymwneud â’i phrofiadau personol, er bod llawer o’r profiadau hynny yn “gyffredin” i nifer o fenywod, meddai.

“Mae lot o fy nghaneuon yn dod o brofiad personol, mae’r stwff fi’n siarad amdano yn siarad â lot o ferched dw i’n meddwl, pethau fel trais, sexual assault a stwff fel yna.

“Mae’r EP sy’n dod mas nawr, y journey basically o fod yn mynd trwy hwnna ond wedyn bod yn gyfforddus gyda fy rhywioldeb… body ownership a stwff fel yna.

“Dw i jyst yn meddwl bod cymaint o ferched wedi mynd trwyddo fe, mewn different types of degrees, mae bron pob un ferch dw i’n nabod wedi bod trwy ryw fath o sexual harassment neu sexual abuse, rape.

“Dw i’n meddwl bod e’n really bwysig i fi fel artist i siarad a dweud ‘mae e’n iawn i gymryd ownership dros eich corff’.

“Fi wedi bod yn rhoi lluniau eitha’ risqué ar Instagram, a cheisio cyfleu hwnna i ferched ond dyna i gyd fi wedi cael yw dynion yn hala lluniau o pidyns nhw, a negeseuon fel ‘Hey, princess’ a stwff fel yna, so mae lot o waith i wneud.”

Nosweithiau FEMME – “teimlo’n ddiogel”

Mae Marged yn un o’r sawl artist benywaidd sydd wedi chwarae yn gigs FEMME y mae Adwaith yn trefnu, lle mae bandiau â merched ynddyn yn unig sy’n perfformio.

“Dyw e ddim fel bod ni’n gadael y bois mas yn y nosweithiau FEMME yma, mae e i wneud gyda’r ffaith fod dim llawer o safe spaces i ferched chwarae heb fod ti’n cael y sound guy yn bod yn sexist, yn trio dweud bod ti ddim yn gwybod sut i setio lan,” meddai.

“Oedd [DJ] Elan Evans wedi setio’r noson lan, mae gweithio gyda menywod yn gwneud e’n brofiad cymaint fwy pleserus i fenywod sy’n artistiaid.

“Mae nosweithiau fel yma yn really bwysig dw i’n meddwl achos mae’n rhoi cyfle… roeddwn i mor excited i chwarae’r noson achos roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n mynd i fod yn ddiogel, bod fi’n mynd i fod mewn dwylo da.”