“Ni’n really [ddim] yn gweld ein hunan fel band o ferched, ni jyst yn gweld ein hunain fel band ac wedyn wnaeth pobol dechrau mentiono fe a doeddwn i ddim yn sylweddoli cyn lleied o ferched sydd yn y sîn,” meddai Gwenllian Anthony, un rhan o dair, Adwaith.

“Yn enwedig mewn bands, fi’n credu bod merched yn dueddol o wneud stwff eu hunan nhw yn unigol.

“Dyw menywod ddim yn gweld role models mewn bands, maen nhw’n gweld pobol sy’n unigol drwy’r amser felly dyna beth maen nhw’n dueddol o fynd ato.”

Er mai dim ond ers dwy flynedd y ffurfiwyd Adwaith, mae’r tair merch 19-20 oed – Gwenllian Anthony, Hollie Singer a Heledd Owen – eisoes wedi creu enw mawr i’w hunain.

Dros yr haf, bu’r grŵp yn chwarae ar lwyfannau BBC Introducing yn ngŵyl Latitude ac maen nhw hefyd wedi recordio yn stiwdios byd-enwog y BBC, Maida Vale.

Nhw hefyd oedd yr unig ddau artist o Gymru [yr un arall oedd Gruff Rhys], i chwarae mewn gŵyl arbennig yn yr Eidal, Suns, sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol ledled Ewrop, dechrau’r mis.

Ac mae’r triawd wedi dechrau trefnu gigs i artistiaid benywaidd a hynny er mwyn “creu platfform sydd ddim yna’n barod.”

Mae dau gig FEMME eisoes wedi’i gynnal, yng Nghaerfyrddin ac yng Nghaerdydd, a’r gobaith yw trefnu mwy ledled y wlad.

Adwaith

Mae’r grŵp yn ddiweddar wedi symud o ganu mwy gwerinol i synnau pync a grunge ac yn ceisio gwthio’r ffiniau gyda chaneuon mwy gwleidyddol.

Mae’r gân ddiweddaraf, FEMME, yn Saesneg ac yn trafod y problemau y mae merched yn ei wynebu yn yr hyn mae Adwaith yn ei gredu sy’n gymdeithas batriarchiaeth.

“Y ffaith fod e dal ddim yn gyfartal rhwng y ffordd y mae dynion yn cael eu drin a menywod yn cael eu trin,” meddai Gwenllian am y rhesymau y tu ôl i ysgrifennu’r gân.

“Sa i’n teimlo bod lot o bobol yn y sîn Gymraeg yn sefyll lan dros hwnna ac yn trafod e, wnes i ysgrifennu’r gân i wneud statement bach.

“Mae mwy o bobol yn trafod e nawr achos bod mwy o fenywod yn y sîn nawr ‘na beth oedd ‘na dwy flynedd yn ôl.”

Mynd yn fronnoeth

Yn y fideo i gyd-fynd â’r gân, mae tair yn bronnoeth mewn golygfa ac yn eu gorchuddio gyda’u dwylo.

“Mae llinell yn y gân, ‘I can’t expose my nipple, but it’s all you want to see,” eglura Hollie.

Ac yn ôl Gwenllian, roedd y penderfyniad yn “ddatganiad.”

“… Mae e bach o statement, ond dyle fe ddim fod yn statement achos jyst boobs yw e.”