Mae barnwr wedi gwrthod clywed honiadau gan goreograffwr fod Michael Jackson wedi ei gam-drin pan oedd e’n blentyn.

Dyma un o’r honiadau olaf yn erbyn y canwr.

Dywedodd y barnwr Mitchell L Beckloff nad oedd dwy gorfforaeth sydd bellach yn gyfrifol am eiddo’r canwr fu farw yn 2009 yn gyfrifol am ei weithredoedd.

Ond doedd e ddim wedi barnu ynghylch dibynadwyedd yr honiadau gan Wade Robson, sydd erbyn hyn yn 35 oed, ac fe ddywedodd cyfreithiwr ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.

Cefndir

Roedd Wade Robson yn bump oed pan gyfarfu â Michael Jackson am y tro cyntaf.

Mae wedi gweithio â Britney Spears ac NSYNC.

Roedd wedi honni yn ystod achos llys y canwr yn 2005 ei fod e wedi treulio noson yn ei gwmni yn Neverland Ranch fwy nag ugain o weithiau, a’i fod yn cysgu yn ystafell wely’r canwr.

Ond fe ddywedodd nad oedd y canwr wedi ei gam-drin, ac fe gafwyd Michael Jackson yn ddieuog.

Ond yn 2013, fe wnaeth e ddwyn achos yn erbyn ystad y canwr, gan honni ei fod e wedi ei gam-drin dros gyfnod o saith mlynedd.

Ond dywedodd llys yn 2015 ei fod e wedi cyflwyno’r achos yn rhy hwyr i gael arian.

Mae cyfreithiwr ar ran Michael Jackson wedi croesawu’r dyfarniad.