Nadolig ‘perffaith’ i Ed Sheeran?

Y canwr-cyfansoddwr, sydd wedi cydweithio ag Amy Wadge, yn y ras am Rif 1 Nadoligaidd

Ed Sheeran

Ed Sheeran

Mae’r canwr-cyfansoddwr Ed Sheeran, oedd wedi cydweithio ag Amy Wadge ar y gân Thinking Out Loud, yn y ras i fod ar frig siart y senglau ar gyfer y Nadolig.

Fe fydd ei gân newydd Perfect, sy’n ddeuawd gyda Beyoncé, yn cystadlu â River gan Eminem a chlasur Wham!, Last Christmas, sydd wedi cael ei chyhoeddi o’r newydd yn dilyn marwolaeth George Michael Ddydd Nadolig y llynedd.

Perfformiodd Ed Sheeran y gân ar ei ben ei hun yn ystod ffeinal Strictly Come Dancing y BBC neithiwr.

Ac mae’r albwm ./. sy’n cynnwys Thinking Out Loud yn y ras i gyrraedd rhif un yr albymau Nadoligaidd hefyd.

Bydd y sengl Nadoligaidd fuddugol yn cael ei chyhoeddi ddydd Gwener.

Y Nadolig diwethaf, daeth Rockabye gan Clean Bandit (a Sean Paul ac Anne Marie) i’r brig.

Fe fydd lawrlwythiadau tan Ragfyr 21 yn cyfrif tuag at y siart Nadoligaidd.

← Stori flaenorol

CYMBAC yn y COVID!

Barry Thomas

Mae’r Trŵbz yn ôl gyda chaneuon roc a reggae, ond tydyn nhw heb fedru gwneud cweit yr argraff yr oedden nhw wedi ei fwriadu

Stori nesaf →

Aren Cymru

Hefyd →

Haf Bach Mihangel yn dod i Wrecsam mewn mwy nag un ffordd

Dr Sara Louise Wheeler

Fleur de Lys, Gwilym, Y Cledrau a Bwncath ymhlith y rhai fydd yn perfformio – mae hi wastad yn heulog yn Wrecsam, medd y trefnwyr