Yn 2016 y Stereophonics oedd y band cyntaf i chwarae ar Gae Ras Wrecsam ers 1982, ac fe gawson nhw groeso rhyfeddol gan dorf o 20,000.

A’r flwyddyn nesaf mae’r band o Gwmaman yng Nghwm Cynon yn dychwelyd i’r Cae Ras ar gyfer gig fawr arall.

Mi fyddan nhw hefyd yn chwarae yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Tocynnau

Ddydd Llun bydd tocynnau ar gyfer dwy gig fawr y Stereophonics yng Nghymru yn mynd ar werth.

Caiff y cyngherddau eu cynnal ar y Cae Ras yn Wrecsam ar yr ail o Fehefin ac yna yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd, wythnos yn ddiweddarach ar y nawfed.

Rocio ers degawdau

Aeth ugain mlynedd heibio ers i’r Stereophonics gyhoeddi eu halbym gyntaf, Word Gets Around.

Fis diwethaf daeth eu degfed casgliad o ganeuon i’r fei, Scream Above The Sounds, ac mae chwech o’u halbyms wedi bod ar frig y siartiau.