Heather Jones (gyda'r gitâr) a Denize Guy - cyn gariad Meic (Llun gan Y Lolfa)
Dyma’r trydydd yn ein cyfres o ddyfyniadau o ‘Mâs o Mâ’ – hunangofiant newydd Meic Stevens. Yn niwedd y 90au cyfarfu Meic a Denize, merch benfelen a chanddi fwy na’i siâr o broblemau…

Roedd Denize yn angel – yn dal, yn benfelen a chanddi gorff perffaith; gallai fod yn seren Hollywood ond nid felly y bu. Glaniodd yn Solfach a bu farw yn Nhyddewi, yn drist, yn unig ac yn feddw. Ond nid felly ei dau ŵr.

Mae’r morwr – y gŵr cynta – wedi troi yn Rebecca erbyn hyn ac wedi colli ei organau gwrywaidd, a’r ail forwr bach, sydd wedi colli defnydd talp o’i ymennydd oherwydd y Famous Grouse, yn byw ger Hwlffordd mewn cartre hen bobol. Hanner y dynion oedden nhw, ill dau – o leia mae ganddyn nhw hynny’n gyffredin!

Alcoholig cronig

Roedd Den yn wahanol, a hi hefyd yn alcoholig cronig, ond do’n i ddim yn gwbod hynny ar y dechre. Cwrddais â hi yn Solfach a mynd â hi am ddrinc. Ro’n i isie cael gwbod hanes TK, heb wbod ar y pryd fod y ddau’n cleco’r wisgi a’r fodca ers blynydde.

Mae’r tŷ sy gyda fi yng Nghaerdydd yn dŷ mawr tri llawr – pedair stafell wely, dwy stafell fyw, dau fathrwm ac iard gefen fach hyfryd a barf yr hen ŵr, gwinwydden Virginia, gwinwydden datws a blodau’r dioddefaint dros y lle.

Roedd gwaith tŷ yn fy llethu ac ro’n i wedi bod yn meddwl ers sbel am gael menyw lanhau. Soniais rywfaint am hyn yn ystod fy sgwrs â Den ac roedd hi’n awyddus i ddod heibio bob hyn a hyn i roi help llaw. Roedd hyn yn grêt ond wyddwn i ddim ei bod hi’n alcoholig ac yn yfed ar y slei. Ymhen hir a hwyr daethon ni’n gariadon a daeth i fyw aton ni, ond cadwodd denantiaeth ar ei byngalo yn Nhyddewi.

 Roedd y plant yn cyd-dynnu’n dda â hi a daeth Den yn rhan o’r teulu. Tua deugain oed oedd hi bryd ’ny. Ac er bod Den yn ddeniadol roedd ganddi broblem fawr ro’n i yn gwbod amdani: ei hasgwrn cefen, a sawl fertebra wedi asio o ganlyniad i ddamwain car flynydde ynghynt.

Y fodca’n fwrn

Roedd hi mewn tipyn o boen ac yn gorfod cymryd lot o dabledi lladd poen. Ond byddai’n dweud nad oedd y pils lladd poen ar eu penne’u hunain yn ddigon ond, gyda’r alcohol, gallai fyw bywyd gweddol normal.

 Hawdd gweld ei bod hi’n diodde ond doedd gen i ddim clem faint o fodca roedd hi’n ei yfed, ac roedd fy mywyd i’n dechre troi’n hunlle. Weithie byddai’n glwm i’r gwely ac yn ffaelu codi am ddyddie. Yn amal byddai’n chwydu drosta i ac yn gwlychu’r gwely.

Roedd yn rhaid iddi adael; roedd fy ffrindie i gyd yn poeni amdana i, a’r plant yn edrych yn rhyfedd arni. Roedd hi’n diodde o bwlimia hefyd; roedd yn gas ganddi fwyd ac roedd hi’n dene fel styllen, yn gorwedd fel sgerbwd ar ei hyd yn y gwely a photeled o fodca wrth ei hochor a hithe’n trio cuddio’r gwir trwy roi sudd oren ynddo fe.

Ar ôl iddi fynd yn ôl i Dyddewi – doedd hi ddim yn hapus am ’ny – ffeindion ni 76 o boteli fodca gwag wedi’u cuddio tu mewn i’r drore dan y gwely. Fisoedd yn ddiweddarach bydde rhagor o boteli’n dod i’r fei mewn pob math o lefydd rhyfedd. Pam ddiawl na fydde hi’n eu rhoi nhw yn y bin? Sneb yn mynd i chwilmentan mewn bagie bins, oes e?!

Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa.

Bydd dyfyniad arall o’r gyfrol ym ymddangos ar Golwg360.com yfory.