Meic yn cael hoe gyda'r plant y bu'n ymladd i'w cadw - Elfed a Megan
Dyma’r ail yn ein cyfres o ddyfyniadau o ‘Mâs o Mâ’ – hunangofiant newydd Meic Stevens. Ar ôl i Frances, mam i dri o’i blant ddiflannu o’i fywyd i Sheffield yn niwedd yr 80au, bu raid i Meic ymladd yn y llys i gadw’r hawl i fagu’r plant…

Roedd y gwrandawiad terfynol a dyfarniad Stevens v. Batin ar y trothwy a sawl ffrind wedi cynnig rhoi tystiolaeth. Anamal y bydde gwarchodaeth plant yn cael ei rhoi i’r tad: mae’r llysoedd fel arfer o blaid y fam naturiol a gwnaed hynny’n glir i fi gan y twrne, heb flewyn ar dafod.

Awgrymodd hefyd y dylwn i roi’r ffidil yn y to ond ro’n i’n awyddus i weld diwedd yr holl gybôl, beth bynnag fydde’r canlyniad. Ro’n i’n gobeithio ennill, wrth gwrs, ond yn nwfn fy nghalon ro’n i’n ame ’ny.

Bargyfreithwraig oedd gan Fran, rhywun oedd yn adnabyddus am gynrychioli feminists a menywod anffodus oedd wedi cael eu cam-drin gan ddynion. Pan es i i’r llys roedd gen i fy nhwrne diduedd a fy merch Wizz (Isobel) ar fy ochor i, ynghyd â Big Beryl a Patsy Tinniswood, i gyd yn dystion i ymddygiad anghyfrifol Fran tuag ata i a’r plantos.

Gwyddai pawb o gwmpas y tafarne yng Nghaerdydd, gogledd Cymru a Solfach a Thyddewi sut bydde Fran yn llusgo’r plant rownd y tafarne, ac yn eu gadael yn cysgu yng nghefen y car yn amal. Doedd Fran ddim yn ferch boblogaidd ac ychydig iawn o ffrindie oedd ganddi.

Doedd Fran ddim yn gadael i neb o’r cyhoedd fynd i’r llys. Plygodd fy nhwrne ata i tua diwedd yr ail ddiwrnod a dweud wrtha i am roi’r gore i’r achos. “Fydd y teulu Davies byth yn rhoi’r ffidil yn y to,” meddwn i – gwir bob gair!

Roedd y dystiolaeth yn erbyn Fran yn gryf, ro’n i’n gwingo o gywilydd weithie ac wedi cael digon wrth i’r achos lusgo mlân, fel hunlle.

Dylanwadu trwy ddewinianaeth?

Gwraig dal, ganol oed oedd bargyfreithwraig Fran, wedi’i gwisgo mewn gwisg farchogaeth ddu, crafát gwyn a bŵts hir du â chyffie brown.

Galwodd fi i’r bocs tystion. Be sy’n bod nawr? meddyliais.

“Mr Stevens, beth ddwedech chi petawn i’n dweud bod fy nghleient yn argyhoeddedig eich bod yn ceisio dylanwadu ar yr achos drwy ddewiniaeth?”

 Wel, do’n i ddim wedi disgwyl hynny! Roedd y tair hen wraig ar y fainc a finne’n hollol syn.

“Ydych chi’n credu mewn dewiniaeth?” gofynnais iddi.

Gwyddai’r fargyfreithwraig ei bod hi mewn twll ac medde hi, “Nac ydw, wrth gwrs. Ffantasi yw dewiniaeth”.

Collodd yr achos yn y fan a’r lle!

Dathlu

Yn ddiweddarach dyfarnodd yr ynadon, y tair hen wraig, o’m plaid i er mawr syndod i’r twrne a cherddodd hwnnw bant gan grafu ei ben a golwg wedi drysu ar ei wyneb. Roedd y plant yn cael aros gyda fi, diolch i’r drefen.

Ro’n i ar ben fy nigon. Dyna i chi ganlyniad! Roedd Wizz wrth ei bodd hefyd a gwnaeth y ddau ohonon ni ddawns fach y tu allan i’r llys.

Aeth Fran heibio ac edrych yn ddu iawn arnon ni. Ond bant â ni am bryd o fwyd i ddathlu.

Ddangosodd Fran mo’i phig yn y tŷ am ddeuddydd a phan alwodd hi, dwedodd ei bod hi’n mynd i apelio yn erbyn y ddedfryd; wedyn aeth hi’n ôl i Sheffield.

Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa. 

Bydd dyfyniad arall o’r gyfrol ym ymddangos ar Golwg360.com yfory.