Eryl Jones o Jen Jeniro sy'n dangos ei ffilm 'Capel Garmon' nos yfory
Bydd dangosiad cyhoeddus cyntaf ffilm prif ganwr y grŵp Jen Jeniro yn nhafarn Dempseys, Caerdydd nos fory.

Mae’r ffilm yn cael ei dangos ar ddechrau gig gyntaf taith Slot Selar.

Darn o waith ffilm ddogfennol gan Eryl Jones ydy ‘Capel Garmon’, sydd hefyd yn brif ganwr y grŵp seicadelic o Lanrwst, Jen Jeniro.

Wedi ei chynhyrchu fel rhan o gwrs Prifysgol Eryl yng Nghaerdydd, mae’r ffilm fer yn ymdrin â bro ei febyd yn y pentref hwnnw yn Nyffryn Conwy.

Portread o bentref yn y gogledd

“Ffilm ddogfen o ryw fath ydy hi – rhyw fath o bortread o bentref bach yng Ngogledd Cymru,” meddai Eryl Jones.

“Mae’n edrych ar beth sy’n mynd ’mlaen yn y pentref ar hyn o bryd ar un llaw, ac ar y llaw arall beth sydd ddim yn mynd ymlaen yno,” ychwanegodd.

“Gobeithio ei bod yn berthnasol i nifer o bentrefi cefn gwlad Cymru, ac felly’n canu cloch efo llawer o’r gwylwyr.”

Dangosiad cyhoeddus cyntaf

Mae’r ffilm ddogfen wedi cael ymddangosiadau mewnol yn y Brifysgol dros yr wythnos ddiwethaf, ond y dangosiad yn Dempsey’s fydd y cyntaf i’r cyhoedd.

Bydd y ffilm yn cael ei dangos am 8pm yn Nhafarn Dempseys Caerdydd nos fory, 23 Mehefin. Bydd y grŵp eclectig o Gaerfyrddin, Trwbador yn dilyn am 9pm.