Crys T 'Taith Duncan Goodhew'
Fe fydd nifer cyfyngedig o grysau T arbennig ar gael i’w prynu yn ystod Taith Slot Selar dros y bythefnos nesaf.

Mae’r  crysau sydd wedi eu hysbrydoli gan ganeuon diweddar a mwyaf poblogaidd dau o fandiau’r daith – Creision Hud a Sen Segur.

Indigo gan Creision Hud ydy ‘gân yr haf’ yn ôl rhai, a bydd crys T arbennig i ddathlu pumed sengl y grŵp eleni.

Taith Duncan Goodhew ydy teyrnged Sen Segur i’r nofiwr Prydeinig o’r 70au ac 80au. Mae’r gân seicadelig honno ar eu EP cyntaf, Pen Rhydd a rŵan bydd crys T i gofio’r gân.

Swfenîr o’r daith

Dim ond 50 yr un o bob crys fydd ar gael i’w prynu, a byddan nhw ar gael o’r gigs sy’n dechrau yn Dempseys, Caerdydd nos Iau yma.

“Rydan ni wedi penderfynu gwneud argraffiad arbennig o grysau T ar gyfer ffans Sen Segur a Creision Hud” meddai Rheolwr y daith, Aled Ifan.

“Byddan nhw’n rhyw fath o swfenîr i bobl gofio’r daith, ond hefyd yn ffordd o ddangos cefnogaeth i’r grwpiau wrth gwrs.”

Dyddiadau llawn y daith:

23 Mehefin – Dempseys, Caerdydd

24 Mehefin – Clwb RAFA, Aberystwyth

25 Mehefin – The Parrot, Caerfyrddin

1 Gorffennaf – Clwb Base, Bangor

2 Gorffennaf – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst