Kids In Glass Houses
Mae tocynnau ar gyfer taith Kids in Glass Houses wedi mynd ar werth heddiw, tra bod sengl gyntaf eu halbwm newydd yn cael ei rhyddhau’r wythnos nesaf.

Fe wnaeth y grŵp indi-roc o Gaerdydd gyhoeddi manylion eu trydedd albwm ynghynt yn yr wythnos.

Bydd ‘In Gold Blood’ yn cael ei rhyddhau ar 15 Awst oddi ar y trydydd albym gan Kids In Glass Houses.

Fe gafodd Smart Casual ei ryddhau yn 2008 ac yna daeth Dirt i’r fei y llynedd.

Cân yn torri gwefan

Mae disgwyl eiddgar am sengl nesaf y grŵp, sy’n cael ei ryddhau’n electronig ar y pumed o Fehefin.

Mae ‘In Gold Blood’ wedi bod ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefan Kids in Glass Houses yr wythnos hon, ac yn ôl y sôn doedd y wefan ddim yn gweithio ddydd Llun oherwydd bod cymaint o bobol yn ceisio cael gafael ar y sengl.

Mae’r grŵp wedi cynyddu mewn poblogrwydd ers rhyddhau eu halbwm gynta’ yn 2008, ac maen nhw wedi cefnogi bandiau poblogaidd gan gynnwys Feeder, Lost Prophets a’r Stereophonics yn ddiweddar.

Bydd y daith i hyrwyddo’r albwm newydd yn cael ei chynnal ym mis Hydref ac yn ymweld â naw lleoliad, ond yn anffodus does yr un o’r rhain yng Nghymru.

Amserlen taith hydref Kids in Glass Houses

1 Hydref – Academi, Bryste
2 Hydref – UEA, Norwich
4 Hydref – Forum, Llundain
5 Hydref – Academi, Leeds,
6 Hydref –  Barrowland, Glasgow
8 Hydref – Guildhall, Southampton
9 Hydref – Neuadd Wulfrun, Wolverhampton
10 Hydref – Academi, Manceinion
12 Hydref – Rock City, Nottingham