Gruff Rhys
Wrth gyhoeddi ei sengl newydd ‘Honey All Over’ heddiw, mae Gruff Rhys hefyd wedi cyhoeddi manylion taith Brydeinig ym mis Hydref.

Fe fydd honno’n cynnwys dwy ganolfan yng Nghymru – fe fydd y daith yn dechrau yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno nos Sul 2 Hydref a hefyd yn ymweld â Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Fercher 5 Hydref.

Roedd canwr y Super Furry Animals eisoes wedi cynnal un daith Brydeinig i hyrwyddo ei albwm ym mis Chwefror, ond doedd dim un canolfan Gymreig ar y rhestr bryd hynny.

Gardd a Niwl

Fe fydd un cyfle i weld Gruff Rhys yn perfformio’n fyw yng Nghymru cyn yr hydref wrth iddo fentro i lwyfan Gŵyl Gardd Goll yn Stâd y Faenol ddiwedd mis Gorffennaf.

Yn ôl gwefan swyddogol y cerddor, The Gruffington Post, fe fydd y grŵp syrff o’r Gogledd, Y Niwl yn ei gefnogi  ar y daith.

Mae Y Niwl, sef prosiect Alun Tan Lan a rhai o gerddorion eraill profiadol y sin, yn teithio America gyda Gruff Rhys ar hyn o bryd.

Y sengl

Mae’r sengl ddiweddaraf o’r albwm Hotel Shampoo ar gael i’w chodi oddi ar y We neu i’w phrynu ar finyl 12 modfedd.

‘Honey All Over’ yw’r ail sengl i ddod o albwm diweddaraf y cerddor o Rachub yn dilyn ‘Sensations in the Dark’ a ddaeth allan ym mis Chwefror.

Mae’r sengl hefyd yn cynnwys ail gân sef ‘Xenodocheionology’.

Amserlen lawn y daith:

2 Hydref – Theatr Gogledd Cymru, Llandudno
3 Hydref – Theatr Olympia, Dulyn
5 Hydref – Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
6 Hydref – Canolfan Wyddelig Leeds, Leeds
7 Hydref – Neuadd Canolfan Fethodistaidd, Manceinion
8 Hydref – Clwb Bongo – Caeredin
9 Hydref – Middlesbrough Crypt, Middlesbrough
11 Hydref – Neuadd Gyngerdd, Reading
12 Hydref – Shepherd’s Bush Empire, Llundain

13 Hydref – Eglwys Santes Fair, Ashford