Seperado
Mae’r cerddor Gruff Rhys wedi cyhoeddi cân newydd i’w ddilynwyr, am ddim.

Mae’r gân ar gael i’w lawrlwytho o’i wefan swyddogol.

Daw’r gân yn wreiddiol “o grombil bol” y ffilm Separado! Gan Dylan Goch a Gruff Rhys.

Cofnod o daith o Lanuwchllyn i Batagonia yw’r ffilm, wrth i Gruff Rhys chwilio am berthynas pell, René Griffiths.

Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Efrog Newydd am y tro cyntaf yn ystod gŵyl ffilm BAM, Mehefin yr18fed.