Perthyn a hiraeth yw rhai o themâu amlycaf cryno ddisg newydd Al Lewis Band fydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl label Rasal – mae ‘Ar Gof a Chadw’ yn dilyn sŵn a naws cynnes ‘In the Wake’ – albwm Saesneg cyntaf y canwr.

Mae’r holl ganeuon yn ‘trafod y syniad o fywyd yn gwibio heibio gan ein gadael yn hiraethu neu’n myfyrio am gyfnodau penodol’ a pherthyn,’   meddai’r label.

Mae’r caneuon wedi’u cyd gyfansoddi ag Arwel Lloyd, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Gildas, meddai Al Lewis. 

Sion Llwyd sy’n chwarae’r bas a phiano, Ryan Aston ar y drymiau, Jonathan Thomas ar y gitâr bedal ddur a Dave Wrench sydd wedi cynhyrchu.

‘Teilwng’

“Gan fy mod i’n Gymro sy’n byw yn Llundain, mae’r thema o hiraeth yn eithaf teilwng. Pan ’dw i’n dod yn ôl i Gymru, mae’r teimlad deffinet yn bodoli a’r synnwyr o fod i ffwrdd o’r teulu pan ’dw i yn Llundain” meddai wrth Golwg360.

O ran cynhyrchu’r albwm, fe ddywedodd ei fod yn ceisio creu sain “tebyg i ganu’n fyw.”

“ Rydan ni wedi trio’i gadw fo’n syml,” meddai Al Lewis.

“Fe wnaethon ni hefyd drio cynnwys y teimlad o gynhesrwydd sydd i’w gael mewn hen recordiau…dim sain cyfrifiadur yn newid ac addasu’r sain,” meddai.

Wrth sôn am rai o’i ddylanwadau cerddorol – mae’n cyfeirio at Meic Stevens ac Endaf Emlyn. Ar hyn o bryd, mae’n trio gwneud cymaint o gigs ag sydd bosibl meddai.

‘Ar Gof a Chadw’ ydy ail albwm Cymraeg Al Lewis band yn dilyn ‘Sawl Ffordd Allan’ a gafodd ei ryddhau yn 2009.

MaeAr Gof a Chadw’ ar gael yn y siopau o ddydd Llun, Ebrill 18fed ymlaen. Bydd hefyd ar gael yn uniongyrchol drwy wefan Sain neu yn ddigidol drwy iTunes a nifer o blatfformau eraill.