Eryl o Jen Jeniro - enillwyr 'Cân y Flwyddyn' am eu sengl Dolffin Pinc a Melyn

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau RAP

Mae C2 Radio Cymru wedi datgelu enillwyr Gwobrau Roc a Pop BBC Radio Cymru 2011.

Ymysg yr enillwyr neithiwr roedd y bandiau Gwibdaith Hen Frân, Y Niwl a Jen Jeniro, tra bod unigolion fel David Wrench a Cate Le Bon hefyd yn cael cydnabyddiaeth.

Yn ogystal â datgelu enillwyr y gwahanol gategorïau bu’r orsaf yn darlledu sesiynau byw a chyfweliadau trwy’r dydd gan gynnwys sesiynau gan Yr Ods ac Al Lewis. 

Uchafbwynt calendr cerddorol

Mae enillwyr y gwobrau’n cael dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth.

“Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru,” meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru.

Gwobr arbennig i gerddor arbennig

Mae bwrlwm y gwobrau wedi bod yn amlwg ar donfeddi Radio Cymru trwy’r wythnos, ac fe gyhoeddwyd un o uchafbwyntiau’r gwobrau, sef Gwobr y Cyfraniad Arbennig, fore dydd Llun ar raglen Dafydd a Caryl.

Steve Eaves dderbyniodd y gydnabyddiaeth arbennig honno eleni, a hynny fuan ar ôl rhyddhau casgliad o’i ddeunydd nad oedd ar gael ar CD cyn hynny, ‘Ffoaduriaid’, ar label Sain.

“Yr wyf yn arbennig o falch fod Gwobr y Cyfraniad Arbennig wedi ei ennill eleni gan Steve Eaves” meddai Sian Gwynedd.

“Mae ei gyfraniad i’r sin roc yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy ac mae yna barch mawr tuag ato.”

Cerddor a bardd didwyll

“Mae Steve Eaves yn gerddor, bardd didwyll, diymhongar a hollol dryw i’w weledigaeth o’r Gymru gyfoes” meddai Toni Schiavone, cyfaill a dilynwr o ddyddiau cyntaf gyrfa Steve Eaves.

“Fel y dywedodd Steve yn ddiweddar ‘mae mwy i ddod’ ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at y dilyniant i’w albwm diweddaraf, Moelyci.”

Yr enillwyr  yn llawn

Jen Jeniro – Cân y Flwyddyn
Y Niwl –Albwm y Flwyddyn
Crash.Disco! – Grŵp neu Artist Ddaeth i Amlygrwydd 2010
Gareth Bonello – Cyfansoddwr y Flwyddyn
Y Niwl  – Band Byw y Flwyddyn
David Wrench – Cynhyrchydd y Flwyddyn
Cate Le Bon  –  Artist Benywaidd y Flwyddyn
Al Lewis  – Artist Gwrywaidd y Flwyddyn
Gŵyl Gardd Goll – Digwyddiad Byw y Flwyddyn
Gwibdaith Hen Frân – Gwobr Siart C2
Y Gwylanod  –  Sesiwn C2 y Flwyddyn