Huw Stephens (llun y BBC)
Fe fydd Huw Stephens yn arwain trafodaeth arbennig ar ddyfodol y sîn gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar ei sioe C2 heno.

Mae’r drafodaeth wedi’i ysgogi’n rhannol gan ddarn Blog, R.I.P. SRG a bostiwyd ar Golwg 360 ac mae’r drafodaeth yn rhannu’r un teitl.

Bydd panel o unigolion sy’n weithgar yn y sîn yn ymuno â Huw Stephens yn y stiwdio, ond mae cynhyrchwyr y rhaglen yn annog gwrandawyr i gyfrannu i’r drafodaeth.

Eisiau i wrandawyr gyfrannu

“Mae dipyn o drafod wedi bod yn ddiweddar yn gofyn a ydi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ei hiaith yng Nghymru mewn stad iach” meddai Huw Stephens wrth Golwg360.

“Heno ar y rhaglen y gobaith ydi trafod hyn ymhellach, a chael barn gwrandawyr a bandiau hefyd ar y rhaglen” ychwanegodd.

Mae grŵp Facebook yn hyrwyddo’r rhaglen eisoes wedi ysgogi llawer o ymateb tra bod modd i wrandawyr fynegi eu barn trwy Twitter, e-bost neu decst hefyd.

Amser caled yn fyd eang

Yn  ôl Huw Stephens, nid yw’r problemau mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn eu hwynebu yn rai anghyffredin.

“Fy marn bersonol i ydi fod e’n amser caled i gerddorion yn fyd eang ar hyn o bryd,” meddai.

“Falle fod y sîn yng Nghymru ddim mor iach ac mae wedi bod ar adegau diweddar, ond tydi o ddim yn hollol farw o bell ffordd.”

Mae’r rhaglen yn darlledu’n fyw ar Radio Cymru heno rhwng 10:00 a 11:00.