Owain Schiavone sy’n rhagweld tranc y Sin Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg…

Mae’r sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar ei gliniau. Tipyn o ddweud mi wn, ond dwi wir yn ofni fod y sîn mewn mwy o berygl nag y mae wedi bod ers amser maith. Mae ‘na nifer o resymau ynglŷn â’r gofid yma ac fe wna’i ymgais i drafod rhai ohonyn nhw’n gryno.

Yn fy amser sbâr dwi’n golygu cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, sy’n derbyn nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru – a diolch yn fawr iawn iddyn nhw. Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn wastad yn un dyrys gan ei bod yn weddol dawel o ran cynnyrch cerddorol newydd a gigs ac ati wedi cyfnod prysur ail hanner y flwyddyn a’r Nadolig. Tydi hyn ddim yn broblem cofiwch gan ei fod yn gyfle perffaith i ddathlu’r flwyddyn a fu ar ffurf Gwobrau’r Selar a 10 uchaf albyms y flwyddyn – mae’r rhain wastad yn boblogaidd mewn cyfnod lle mae’r diwydiant y tu hwnt i Gymru’n gwneud yr un math o beth.

Y drafferth ydy, dwi’n gweld problemau eleni gyda’r 10 uchaf albyms, sy’n awgrymu problem fawr i’r sîn. O edrych ar y cynnyrch sydd wedi’i ryddhau y llynedd, dim ond jyst gallu llenwi’r 10 uchaf fyddwn ni! Mae’n siŵr fy mod i wedi methu un neu ddau, ond o’r hyn dwi’n gweld, dim ond rhyw bymtheg o albyms ‘cyfoes’ sydd wedi eu rhyddhau yn 2010…ac mae tri o’r rheiny’n gasgliadau aml gyfrannog o ddeunydd hen tra bod albwm Huw M yn un wedi’i ail ryddhau i bob pwrpas.

Problem PRS

Pam fod ‘na gyn lleied o gynnyrch newydd felly? Heb os mae’r newidiadau yn ymwneud â thaliadau PRS wedi cyfrannu at y broblem. Heb fanylu ynglŷn â hyn (achos mae ‘na ddigon o bobl sy’n deall mwy na fi am y mater), mae’r newidiadau yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i’r prif labeli gymryd risg ar fandiau cyfoes sydd efallai ddim yn mynd i werthu llawer o unedau neu gael eu chwarae drosodd a throsodd ar y tonfeddi. Mae’n rhaid i’r labeli chwarae’n llawer mwy saff wrth ryddhau deunydd – nid eu bai nhw ydy hyn achos ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid i’r labeli fod yn fasnachol gynaliadwy. Mae cael côr mewn i’r stiwdio am ddiwrnod i recordio albwm yn fuddsoddiad llawer llai, a mwy saff, na chael band mewn i’r stiwdio i recordio am bythefnos – yn enwedig os ydy’r côr yn gwerthu mwy o CDs na’r band beth bynnag.

O’r hyn dwi’n clywed, mae gwerthiant unedau CDs yn ddigon tebyg i’r hyn mae wedi bod yn y gorffennol, felly mae’n amlwg mae’r colledion o ran breindaliadau sydd ar fai.

Rhyddhau’n annibynnol

O edrych yn fanylach ar y cynnyrch newydd sydd wedi ei ryddhau, mae’n ymddangos fod lefel y senglau yn reit debyg i’r arfer tra dwi’n tybio bod yna rywfaint o gynnydd yn y nifer o EPs sydd wedi dod allan o’i gymharu a 2009 a 2008. Mae llawer o’r cynnyrch llai wedi eu rhyddhau’n annibynnol gan artistiaid hefyd, sy’n newid trend digon iach yn fy marn i – o fynd yn ôl 10-15 mlynedd roedd hyn yn weddol gyffredin. Eto, mae buddsoddi mewn sengl neu EP yn ddoeth gan ei fod yn llai o risg ariannol yn y man cyntaf, ac mae gobaith reit dda y bydd y cynnyrch i gyd yn cael airplay ac felly’n cynhyrchu rhywfaint o incwm.

Yr unig drafferth efo rhyddhau deunydd yn annibynnol ydy’r diffyg profiad a grym marchnata ac yn aml iawn tydi’r cynnyrch ddim yn cael y sylw mae’n ei haeddu. Mae artistiaid yn dda am gynhyrchu cerddoriaeth tra bod labeli, ar y cyfan, yn dda am hyrwyddo cynnyrch, ond mae angen mwy na hyn i greu sin fywiog a llwyddiannus. Y drafferth ydy bod yna ddiffyg yn isadeiledd y sin gerddoriaeth Gymraeg ers blynyddoedd ac mae hynny wedi’i amlygu’n fwy erbyn hyn.

Bylchau ym model busnes y sin

Dwi ddim yn meddwl bod cymharu gyda’r sefyllfa y tu hwnt i’r ffin wastad yn beth da, ond wrth ystyried model syml isadeiledd sin gerddoriaeth dwi’n meddwl ei fod yn ymarfer da yn yr achos yma.  Yn Lloegr mae ‘na nifer o elfennau gwahanol sy’n gweithio i hybu’r sin – yn gyntaf mae’r band, wedyn rheolwr y band, y labeli recordio, hyrwyddwr gigs, cwmnïau plygio, y wasg a chyfryngau cerddoriaeth ac yna’r gynulleidfa wrth gwrs. Mae’r elfennau yma i gyd yn annibynnol o’i gilydd i raddau helaeth.

Yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd mae ‘na dipyn o fandiau bach da, ambell label sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, gwasg a chyfryngau sy’n rhoi rhywfaint o sylw i gerddoriaeth gyfoes a chynulleidfa sy’n disgyn ar raddfa gyflym iawn. Yn aml fe gewch chi unigolion yn trio cyflawni nifer o’r elfennau angenrheidiol y cewch chi efo enghraifft Lloegr, ond does dim modd i un person fod yn dda ar bopeth  pryd mae hi’n dod at ddisgyblaethau gwahanol iawn. Dylai artistiaid sticio at greu cerddoriaeth a dylai labeli sticio at ryddhau a hyrwyddo cerddoriaeth – y bwlch mawr yn y canol sydd angen ei lenwi.

Dyna ni ddwy broblem fawr i’r sin ddatrys felly – sut i ymdopi â’r toriadau mewn breindaliadau a sut i lenwi’r bylchau yn yr isadeiledd. Dwi’n mynd i gymryd hoe fan hyn am y tro rhag eich colli chi, ond bydd ‘R.I.P. SRG – Rhan 2’ yn ymddangos yn fuan…