Y cerddor Tom Petty, (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae’r cerddor Tom Petty wedi marw yn 66 oed, meddai ei lefarydd.

Bu farw Tom Petty yn yr ysbyty yn Los Angeles nos Lun ar ôl cael trawiad ar y galon.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ganu gyda’r bandiau The Heartbreakers a’r Traveling Willburys.

Roedd caneuon mwyaf adnabyddus The Heartbreakers yn cynnwys Free Fallin’, Refugee ac American Girl.