Prosiect cerddorol ar y cyd rhwng Carwyn Ellis o’r band Colorama a dwy chwaer a brawd y triawd Plu – Marged, Elan a Gwilym Rhys – sydd wedi cipio gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi’r albym Bendith sydd â chaneuon wedi eu hysbrydoli gan Sir Gaerfyrddin, ardal sy’n agos iawn at galon Carwyn Ellis a arferai fynd yno ar wyliau at ei deulu.

Y beirniaid eleni oedd Heledd Watkins, Llyr Evans, Huw Roberts, Ywain Myfyr, Katie Hall, Owain Schiavone, John Hywel Morris, Gwyneth Glyn ac Ellen Hall.

Roedd y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni yn cynnwys:

  • Band Pres Llareggub – Kurn
  • Bendith
  • Calan – Solomon
  • Castles Fforesteering
  • Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear
  • Meinir Gwilym – Llwybrau
  • Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr
  • Ryland Teifi – Man Rhydd
  • The Gentle Good – Ruins / Adfeilion
  • Yws Gwynedd – Anrheoli

Bendith yn croesi ffiniau

“Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli,” meddai Guto Brychan, un o drefnwyr y gystadleuaeth.

“A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel mor eang, sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd.

“Roedd yn amlwg o’r drafodaeth bod albwm Bendith wedi llwyddo i groesi ffiniau genres ac apelio at gynulleidfa eang iawn, a braf yw gweld hynny.  Roedd y panel yn teimlo bod hwn yn gyfanwaith hyfryd yn dangos cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ar ei orau.  Braf felly yw gallu rhoi’r wobr i Bendith eleni.”