Alffa
Mae enillwyr Brwydr y Bandiau 2017 wedi disgrifio’r profiad fel un “swreal.”

O’r chwe band ac artist bu’n cystadlu am y teitl, y band roc blws, Alffa, oedd yn fuddugol prynhawn ddoe.

Ymysg y gwobrau fydd y deuawd o Lanrug yn derbyn bydd £1,000 i’w wario fel y mynno, a chyfle i berfformio ym Maes B ddydd Iau.

Yn ôl y gitarydd a prif leisydd, Dion Jones, a’r drymiwr, Siôn Land, mae’r wobr yn dod yn sgil blwyddyn o waith caled ac mae’r ddau wedi cyffroi ar gyfer eu slot Maes B.

“Mae’n deimlad grêt,”  meddai Dion Jones wrth golwg360. “Dw i ddim yn meddwl bod o cweit wedi taro ni eto. Mae’n reit swreal.”

“Unwaith fyddwn ni’n Maes B fydd o’n taro ni. Dw i mor excited i chwarae. Dyma be rydan ni wedi eisiau ers dechrau. Mae’n wych.”

“Mynd â’r llif”

O ran cynlluniau am y dyfodol mae’r band yn awyddus i fynd i’r stiwdio – ac yn ystyried recordio albwm – ond yn ddigon hapus i “fynd â’r llif” am y tro.

“Wnawn ni barhau i wneud gigs i gael ein henw ni allan. Gawn ni weld sut mae’n mynd,” meddai Dion Jones.