Fe fydd cyngerdd roc yn yr Eisteddfod yn brotest yn erbyn diffyg merched ar lwyfan Maes B yn y Brifwyl.

Cyhoeddodd Alun Reynolds – sydd yn aelod o’r grŵp Panda Fight – ei fod yn bwriadu cynnal gig ‘merched yn unig’ ar Awst 10 i gystadlu yn erbyn Maes B.

Mae llwyfan hwnnw, meddai Alun Reynolds, yn “orlawn â dynion”.

‘Siomedig’

“O’n i wedi’n siomi bod lot o fandiau benywaidd ddim yn cael y cyfle i chwarae eleni yn yr Eisteddfod yn enwedig ym Maes B,” meddai Alun Reynolds wrth golwg360.

“Pam dydyn nhw ddim yn cael y cyfle? Mae hawl gyda phob band i chwarae, nid jest un neu ddau fand benywaidd. O gymharu â llynedd, mae Maes B yn orlawn â dynion eleni … Mi ddylai fod mwy o fenywod yn perfformio.”

“Dyna pam yr ’yn ni’n cynnal gig genod yn unig – i roi cyfle i fenywod cael chwarae yn Ynys Môn.”

“Sîn farw”

Mae’r cerddor hefyd yn honni bod y Sîn Roc Gymraeg  “wedi marw” gyda diffyg digwyddiadau.

“Does braidd dim gigiau yn cael eu cynnal yng Nghymru rhagor sydd yn beth ofnadwy. Gewch chi gigiau ‘Twrw’ [yng Nghaerdydd] sydd ond yn digwydd pob tri mis,” meddai.

“Mae ambell i gig yn Pontio, a dyna fe – gan eithrio Maes B. Sa i’n gwybod am unrhyw lefydd sydd yn cynnal gigiau Cymraeg rhagor. Mae’r sin wedi marw o ran gigiau.”