Y gantores Ariana Grande, Llun: O'i chyfrif Twitter
Mae cynghorwyr ym Manceinion wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid rhoi dinasyddiaeth y ddinas i’r gantores Ariana Grande.

Cafodd 22 o bobol eu lladd wrth i fom gael ei ffrwydro gan Salman Abedi, 22, yn Arena Manceinion yn ystod ei chyngerdd ar Fai 22.

Trefnodd hi gyngerdd coffa ar gae criced Old Trafford i’r rhai fu farw ac i gefnogi pobol eraill a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad.

Roedd rhai o’r teuluoedd yn bresennol yng nghyfarfod y cyngor y bore ma pan gafodd y cynnig ei basio.

Pleidleisiodd y cyngor hefyd o blaid cynnal derbyniad i’r rhai oedd wedi helpu’r sawl oedd wedi’u heffeithio gan yr ymosodiad, ac fe gafodd cynllun gwobrwyo newydd ei gynnig.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Syr Richard Leese fod Ariana Grande yn “Americanes ifanc y byddai’n ddealladwy pe na bai hi byth am weld y lle hwn eto”.

Ond ychwanegodd ei bod hi wedi “cysuro miloedd ac wedi codi miliynau ar gyfer cronfa argyfwng We Love Manchester” yn dilyn cyngerdd coffa fis diwethaf.

Y cyfarfod

Yn ystod y cyfarfod y bore ma, chwaraeodd yr Halle String Quartet y gân Don’t Look Back in Anger gan y band Oasis – cân sydd bellach yn cael ei chysylltu ag ysbryd y ddinas.

Cafodd gweddïau aml-ffydd eu cynnal cyn y cyfarfod, a chafodd enwau’r 22 o bobol a gafodd eu lladd eu darllen cyn cynnal munud o dawelwch er cof amdanyn nhw.

Mae cynlluniau ar y gweill i godi cofeb barhaol i’r 22 yn y ddinas.