Coldplay (Llun: Wikipedia)
Daeth cyngerdd Coldplay i ben yn Stadiwm Principality neithiwr gyda fersiwn arbennig o Hen Wlad Fy Nhadau.

Hon oedd y noson gyntaf o ddwy y mae’r band yn eu cynnal yn y brifddinas.

Roedden nhw eisoes wedi gwibio trwy gyfres o’u caneuon mwyaf pan gyhoeddodd y prif leisydd, Chris Martin fod gan y band “ffafr” i ofyn i’r gynulleidfa.

“Oherwydd ein bod ni yma yng Nghymru, oherwydd ein bod ni yn Stadiwm y Mileniwm, mae gyda ni ffafr i ofyn i chi.

“Ry’n ni wedi canu 22 o ganeuon i chi. Tybed a fyddech chi’n canu un i ni. Efallai y gallen ni orffen drwy ganu un gân wych wnaethon ni ddim ei hysgrifennu.”

Jonny Buckland

Cafodd Jonny Buckland ei eni yn Llundain cyn symud gyda’i deulu i Bant-y-mwyn yn Sir y Fflint yn bedair oed.

Aeth i Ysgol y Waun ac Ysgol Alun yn Yr Wyddgrug, cyn dychwelyd i Lundain a mynd yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol Llundain (UCL), lle gwnaeth e gyfarfod ag aelodau eraill y band.

Yng Nghymru y chwaraeodd e’r gitâr am y tro cyntaf yn 11 oed.

Ymateb

Mae cryn ymateb wedi bod i’r perfformiad ar Twitter: