Gŵyl Sŵn, Caerdydd
Mae trefnwyr gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn ymestyn yr ŵyl o un penwythnos i fis cyfan o weithgareddau.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Medi 22 a Hydref 21 gyda’r prif ddigwyddiadau ar y penwythnos olaf.

Bydd perfformiadau gan Songhoy Blues, Jen Cloher, Courtney Barnett, The Amazons a This is the Kit.

“Ymateb anhygoel”

Mae’r ŵyl wedi’i sefydlu gan DJ Radio 1, Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron.

“Am gyfnod ro’n i’n pendroni dros ddyfodol Sŵn, ond fe gawson ni ymateb anhygoel y llynedd gan weld galw mawr gan y sin gerddoriaeth Gymraeg am yr ŵyl hon,” meddai John Rostron.

“Roedd cyrraedd 10 oed y llynedd yn gyfle i ailadeiladu’r ŵyl mewn ffordd newydd. Mae Sŵn wedi cynnal sioeau tu allan i’r prif benwythnos am gyfnod, felly fe fydd yn awr yn dod â chyfres o gyngherddau at ei gilydd dros y mis cyfan,” ychwanegodd.