Rhai o brif artistiaid Cymreig Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni yw Griff Lynch, Candelas, Adwaith, Ani Glass, Yws Gwynedd a’r band gwerin Plu.

Dyma’r chweched flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal ym mhentref Portmeirion, ac fe fydd yn cael ei chynnal eleni rhwng 7 – 10 o Fedi.

Ar y dydd Gwener bydd perfformiadau gan fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru ynghyd â cherddoriaeth gan Griff Lynch, Adwaith, Candelas a Sweet Baboo.

Bydd Ani Glass, Argrph, Chroma, DJ Elan Evans, Greta Isaac a Lastig Band yn perfformio ar y dydd Sadwrn.

Ac i gloi’r ŵyl ar y dydd Sul bydd perfformiadau gan Yws Gwynedd, Yr Eira, Carcharorion, Bob Delyn a’r Ebillion, Alys Williams, Plu a setiau gan DJs Nyth.

Gwelliannau

 

Mae’r rhain yn ychwanegu at brif gantorion eraill yr ŵyl sy’n cynnwys The Flaming Lips, Bloc Party a Mogwai.

Ac mae’r trefnwyr wedi cadarnhau eu bod yn gweithio ar welliannau i’r safle yn dilyn llifogydd yn y meysydd parcio’r llynedd.