Megan James (ail o'r chwith) yng nghyngerdd One Love Manchester
“Roedd Ariana Grande yn anhygoel, hebddi hi, fyddai dim wedi bod yn bosib. Mae’n ymladdwr ac yn ifanc fel ni.”

Dyna sylwadau merch 24 oed, sy’n wreiddiol o ardal Aberystwyth, a oedd yn un o’r 50,000 yng nghyngerdd One Love Manchester ym maes criced Old Trafford neithiwr.

Ers dwy flynedd mae Megan James wedi byw ym Manceinion ac fe glywodd y ffrwydrad o’i chartref ar Fai 22 pan gafodd 22 o bobol eu lladd a degau eu hanafu.

“Roeddwn eisiau dangos fy nghefnogaeth i’r teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan yr ymosodiad hunanol ac ofnadwy. Roeddwn i hefyd eisiau helpu i godi arian at Gronfa Manceinion,” meddai Megan James wrth golwg360.

Erbyn hyn mae trefnwyr y gyngerdd wedi llwyddo i godi £2 filiwn at gronfa brys ‘We Love Manchester’.

‘Unedig’

Esboniodd Megan James ei bod yn gweithio fel Cydlynydd Digwyddiadau yn un o westai’r ddinas ac, am hynny, mae’n deall  y “cymhlethdodau” o gynnal digwyddiad o’r fath ar fyr rybudd.

“Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol. Roedd y diogelwch, yr heddlu, staff y bar a’r stiwardiaid i gyd yn wych,” meddai.

“Ers y digwyddiad mae’r ddinas wedi dod yn fwy unedig, ac roeddwn eisiau bod yn rhan o hynny.”

Sêr y gyngerdd

Yn ymuno â’r gantores 23 oed, Ariana Grande, roedd Coldplay, Liam Gallagher, Miley Cyrus, Black Eyed Peas, Katy Perry, Justin Bieber, Little Mix, Take That a Robbie Williams.

Esboniodd Megan James mai un o’i huchafbwyntiau hi oedd clywed y gân ‘Where is the Love?’ gan Black Eyed Peas.

“Teimlad mwya’r noson oedd bod angen inni beidio â byw mewn ofn. Does dim ots o ba gefndir ry’n ni’n dod, pan chi’n unedig allwch chi drechu unrhyw beth.

“Mae Manceinion yn ddinas gref a herfeiddiol ac mae pawb sy’n byw yma mor falch i’w alw’n gartref.”

‘Nerfus’

Er hyn, roedd yn cydnabod iddi deimlo’n “nerfus” cyn y gyngerdd o ystyried iddo gael ei gynnal lai na 24 awr ers ymosodiad brawychol Llundain.

“Ond yn gyffredinol, roedd y naws yn wych,” meddai Megan James.

“Roedd pawb yn canu a dawnsio mewn teimlad o undod. Ond yn amlwg, roedd rhai yn emosiynol iawn ac wedi’u heffeithio’n drwm gan y digwyddiad.”