Y gantores Ariana Grande, Llun: O'i chyfrif Twitter
Daeth 50,000 o bobl ynghyd ym Manceinion neithiwr ar gyfer cyngerdd arbennig i gofio’r rhai fu farw mewn ymosodiad yn y ddinas bythefnos yn ôl.

Fe ymunodd nifer o sêr amlwg y bydd cerddoriaeth a’r gantores o’r Unol Daleithiau Ariana Grande, 23, ar gyfer cyngerdd One Love Manchester ym maes criced Old Trafford ym Manceinion.

Cafodd 22 o bobl eu lladd a degau eu hanafu ar ôl i Salman Abedi ffrwydro bom wrth i bobl adael cyngerdd Ariana Grande yn Arena Manceinion ar 22 Mai.

Cafodd y cyngerdd ei gynnal llai na 24 awr ar ôl i saith o bobl gael eu lladd mewn ymosodiad brawychol ar London Bridge.

Yn ystod noson emosiynol, dywedodd Ariana Grande ei bod wedi penderfynu canu mwy o’i chaneuon poblogaidd ar ôl cwrdd â mam Olivia Campbell-Hardy, 15, a oedd ymhlith y rhai gafodd eu lladd ym Manceinion.

Ymhlith y rhai oedd yn perfformio oedd Coldplay, Liam Gallagher, Miley Cyrus, Black Eyed Peas, Katy Perry, Justin Bieber, Little Mix, Take That a Robbie Williams.

Dywed trefnwyr bod y gyngerdd wedi codi £2 filiwn tuag at gronfa brys We Love Manchester. Yn ôl y Groes Goch, mae £10 miliwn eisoes wedi ei godi tuag at y gronfa i helpu teuluoedd y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu.

Roedd ffans Ariana Grande, a oedd yn y gyngerdd adeg yr ymosodiad, wedi cael cynnig tocynnau am ddim i’r digwyddiad neithiwr.