Mae rheolwr busnes wnaeth ddwyn dros £5.4m o arian y canwr Alanis Morissette ac eraill wedi cael ei garcharu am chwe blynedd.

Dywedodd y canwr ei bod am i Jonathan Schwartz dreulio amser maith dan glo am ei fod wedi “dwyn breuddwydion”.

Jonathan Schwartz fu yng ngofal arian Alanis Morissette ac roedd wedi symud cyfrifon a’i chamarwain o ran gwerth ei chyfoeth.

Roedd Jonathan Schwartz, 47, yn llefain wrth ymddiheuro ac egluro ei fod yn gaeth i gamblo mewn llys yn Los Angeles. Dywedodd ei fod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ei ymddygiad.

“Fi fy hun sy’n gyfrifol am y difrod. Bydda i’n treulio gweddill fy oes yn gofyn am faddeuant,” meddai.

Yn ogystal â dedfryd yn y carchar, mae wedi cael ei orchymyn i dalu $8.6 miliwn o ddoleri yn ôl.

Dwyn gan eraill

Fe wnaeth Jonathan Schwartz ddwyn bron i bum miliwn o ddoleri gan Alanis Morissette rhwng mis Mai 2010 a mis Ionawr 2014 a mwy na dwy filiwn gan bum cleient anhysbys arall pan fu’n gweithio i gwmni GSO Business Management.

Roedd Jonathan Schwartz yn bartner yn y cwmni ac yn ennill 1.2 miliwn o ddoleri’r flwyddyn, yn ôl papurau’r llys.