Dafydd Dafis (Llun: S4C)
Mae’r actor a’r cerddor dawnus, Dafydd Dafis, wedi’i ddarganfod yn farw dros nos.

Nid oedd Heddlu’r Gogledd yn medru cadarnhau’r enw, ond fe ddywedon nhw fod yr heddlu wedi cael galwad tua 8.30 nos Lun i Borthaethwy, Ynys Môn lle daethpwyd o hyd i gorff dyn.

Dywedodd y llefarydd nad ydy’r heddlu’n trin y farwolaeth fel un amheus.

Roedd Dafydd Dafis yn actor a cherddor poblogaidd a’i gân enwoca’ oedd Tŷ Coz gan Iwan Llwyd ac Elwyn Williams – mae’n cael ei chydnabod yn gyffredinol yn un o’r caneuon gorau erioed i beidio ag ennill cystadleuaeth Cân i Gymru.

Roedd wedi actio yn y cyfresi teledu Paradwys Ffwl, Pen Talar ac Yr Heliwr ymhlith eraill.

“Amrywiaeth enfawr o ddoniau”

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth anamserol yr actor, canwr, cerddor a chyflwynydd Dafydd Dafis.

“Roedd ganddo amrywiaeth enfawr o ddoniau a chyfrannodd yn fawr at lu o gyfresi a rhaglenni ar S4C o ddyddiau cynharaf y sianel ymlaen. Fel actor, byddwn yn ei gofio yn chwarae cymeriadau mewn cynyrchiadau fel Yr Heliwr/A Mind to Kill, Coleg, Pen Talar a Paradwys Ffwl gyda medr ac angerdd.

“Dangosodd yr un angerdd wrth berfformio fel canwr soul a phop a cherddor jazz, pop a roc a pherfformio mewn sawl cyfres gerddoriaeth ac adloniant ar S4C a chyngherddau amlwg. Bydd colled fawr ar ei ôl a hoffem anfon ein cydymdeimlad dyfnaf i’w deulu a’i ffrindiau.”

Mewn neges ar wefan cymdeithasol Facebook, bu’r actores Sharon Morgan yn talu teyrnged i Dafydd Dafis.

“Trist iawn clywed am farwolaeth yr actor Dafydd Dafis. Coffa da amdano. Actor Gwych a cherddor a chanwr dawnus dros ben.”

Gwybodaeth “anhygoel” am gerddoriaeth

Un arall fu’n cydweithio â Dafydd Dafis, oedd yn wreiddiol o Rosllannerchrugog ger Wrecsam, ydy Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws, Betsan Llwyd.

“Fuodd o ar un cyfnod yn gweithio’n gyson iawn efo Bara Caws, ac mi oedd pawb wrth eu bodd yn ei gwmni fo. Mi oedd o’n aelod hwyliog iawn o gwmni,” meddai Betsan Llwyd.

“Dw i wedi gweithio efo fo fel actor ers blynyddoedd hefyd, ac wedi chwarae gwraig a chariad sawl gwaith gydag o,” meddai.

“Yn fwy diweddar, mi oedd Bara Caws yn gwneud cyflwyniad i noson am Frank Zappa yng Ngŵyl Gerdd Bangor ac mi wnes i ofyn i Dafydd a fyddai o’n medru dod i lywio honno achos mi oedd ei wybodaeth o am gerddoriaeth, am jazz ac am Zappa yn anhygoel.”

Cyfeiriodd hefyd at ei ddawn ym maes coginio gan ddweud – “mi oedd o’n gogydd heb ei ail hefyd.”