Adele yn y Grammy's nos Sul (Llun: Matt Sayles/Invision/AP)
Yng ngwobrau’r Grammys neithiwr, fe lwyddodd y gantores o Lundain, Adele, i gipio’r pum gwobr yr oedd hi wedi’i henwebu ar eu cyfer.

Fe gurodd y gantores Beyonce am y prif wobrau gan gynnwys yr albwm a’r albwm pop gorau am 25, ynghyd â record, cân a pherfformiad unigol gorau am y gân ‘Hello’, yn dilyn cystadleuaeth agos gydag albwm Beyonce, Lemonade.

Bellach, mae ganddi gyfanswm o 15 gwobr Grammy yn dilyn llwyddiant ei halbwm 21 yn 2012.

Yn ystod y gwobrau yn Los Angeles, fe ganodd gân fel teyrnged i George Michael, gan ymddiheuro am orfod ailddechrau.