Cadeirlan Tyddewi (Llun o wefan Eglwys Gadeiriol Tyddewi)
Mae’n bosib y gall Tyddewi gael ei henwebu fel Dinas Ddiwylliant Prydain 2021 os yw Cyngor Sir Benfro yn penderfynu cofrestru â’r cynllun erbyn diwedd y mis.

Cafodd prosiect Dinas Ddiwylliant Prydain ei lansio yn 2013 – Hull sydd â’r teitl eleni.

Pwrpas y rhaglen yw defnyddio diwylliant a chreadigrwydd fel modd o annog adfywiad economaidd a chymdeithasol.

Mewn adroddiad i gabinet Cyngor Sir Benfro mae’r Cyfarwyddwr Datblygu, Steven Jones yn argymell dinas leiaf Prydain fel “canolfan ysbrydol hanesyddol a diwylliannol o bwys yng Nghymru.”

Sgôp daearyddol

Mae modd i unrhyw ardal tu allan i Lundain ymgeisio i fod yn rhan o’r prosiect – nid yw’n angenrheidiol  i ddinasoedd yn unig ymgeisio gan fod modd i drefi mawr a chyfres o drefi wneud cais.

Mae’r adroddiad yn ystyried y posibilrwydd o gynnwys “gogledd Sir Benfro a’i hunaniaeth ddiwylliannol trwy’r iaith Gymraeg” gan gynnwys Abergwaun ynghyd â Thyddewi  yn eu cais.

Wedi iddyn nhw benderfynu ar sgôp daearyddol y cais a gyda chydsyniad y Cyngor mae’n bosib y gall cais cychwynnol gael ei gyflwyno erbyn Chwefror 28.