Huw Stephens
Mae llu o weithgareddau a digwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer dathlu Dydd Miwsig Cymru eleni.

Dan arweiniad y cyflwynydd radio Huw Stephens, bydd Chwefror 10 yn ddiwrnod llawn gigs, perfformiadau, gosodiadau celf a chystadlaethau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad.

Bydd gig am ddim yn cael ei chynnal yn Emporiwm y Castell lle fydd The Gentle Good, Adwaith, Roughion, ARGRPH, Chroma, a Mellt yn chwarae o 2yp ymlaen.

Hefyd bydd perfformiadau gan Steve Eaves a Chris Jones yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen, Atsain yn yn La Mancha yng Nghastell-nedd ac Eden yng Nghlwb Ifor Bach.

Ar 12 Chwefror bydd “ref i’r plantos” gyda Bunff o’r Super Furry Animals yn DJio yn Tramshed.

“Haeddu cael ei ddathlu”

“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn haeddu cael ei ddathlu, ac mae hon yn ffordd wych o wneud hynny, gan sicrhau bod y wlad gyfan a dilynwyr cerddoriaeth ym mhedwar ban byd yn ymwybodol o’r doniau aruthrol sydd gennym ni yma yng Nghymru,” meddai Huw Stephens.

“Rwy’n hyderus y bydd y diwrnod yn cyflwyno llawer o bobl i gerddoriaeth na fyddent wedi’i chlywed fel arall. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu’r diwrnod ac yn annog pawb i gymryd rhan ar-lein drwy ddefnyddio #DyddMiwsigCymru.”

Rhestr artistiaid Cymraeg mwyaf cŵl Huw Stephens

Ysgol Sul

Band pop indi breuddwydiol a hyfryd o hamddenol o Landeilo, gwych ar lwyfan gyda agwedd slacyr arbennig o gyffrous.

Tebyg i – Slowdive

Trac – Aberystwyth yn y Glaw

https://soundcloud.com/ysgol-sul/aberystwyth-yn-y-glaw-demo-ysgol-sul

Chroma

Triawd roc amgen o’r Rhondda, ennillywrd Brwydr y Bandiau llynedd a band gyda digon i ddweud am y byd.

Tebyg i – Biffy Clyro

Trac – Claddu 2016

https://www.youtube.com/watch?v=WI-CFEsFipk&vl=en-GB

Brand Pres Llareggub

Band pres llawn agwedd o’r Gogledd gyda dylanwadau hip hop. Parti bob tro ma rhein mlaen.

Tebyg i – Clean Bandit

Trac – Gweld y Byd Mewn Lliw

https://soundcloud.com/llareggub-brass-band/gweld-y-byd-mewn-lliw-gydafeat-alys-williams-mr-phormula

Delyth McLean

Cantores a chyfansoddwraig werin ddawnus o Ferthyr Tudful

Trbyg i  – Laura Marling

Trac – Tad a Mab

https://soundcloud.com/delyth-mclean/tad-a-mab

Sŵnami

Band pop indi poblogaidd gyda llwyth o diwns cofiadwy. Mae eu albym cyntaf yn ffefryn mawr.

Tebyg i – Two Door Cinema Club

Trac – Trwmgwsg

https://www.youtube.com/watch?v=7OtoYKflIfA

Cpt Smith

Band pync amgen o Sir Gâr, gyda syniadau a caneuon diddorol.

Tebyg i – Arctic Monkeys

Trac – Llenyddiaeth

https://soundcloud.com/ptmith/llenyddiaeth

Ani Glass

Pop synth ffresh gan yr artist unigol o Gaerdydd, Ani Saunders

Tebyg i – Grimes

Trac – Ffôl

https://soundcloud.com/aniglass/ffol

Candelas

Rocyrs indi swnllyd gyda blas y blws, o Lanuwchllyn a un o ffefrynnau Cymru.

Tebyg i – Last Shadow Puppets

Trac – Anifail

https://www.youtube.com/watch?v=622sJJ8yFMg

Fleur de Lys

Band gitâr roc indi ifanc a ffresh sy di chwarae’n fyw dipyn.

Tebyg i  – Catfish and the Bottlemen

Trac – Cofia Anghofia

https://www.youtube.com/watch?v=R1aDIAdBXlg