Llun: PA
Mae actor wedi cael ei ladd wrth ffilmio fideo gerdd ar gyfer grŵp hip hop o Awstralia

Dywedodd yr heddlu yn Queensland bod y dyn wedi marw mewn bar yn ninas Brisbane wrth ffilmio golygfa ar gyfer y band o Awstralia Bliss n Eso a oedd yn cynnwys nifer o ddrylliau.

Mae’n debyg nad oedd aelodau o’r band ar y set ar y pryd.

Yn ystod yr olygfa roedd sawl actor wedi tanio eu gynnau ac mae’n debyg bod y dyn wedi cael anafiadau i’w frest. Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu.

Nid yw enw’r actor wedi’i gyhoeddi.