Mae gwefan gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Gymraeg, Apton, yn dal i fod yn anweithredol ar ôl iddi gael ei hacio dros nos.

Y neges ar wefan Apton yw bod y gweinyddwr wedi’i hacio yn anghyfreithlon a bod y cwmni wedi gorfod “tynnu’r gweinydd all-lein am gyfnod”.

Mae Apton yn dweud ei fod yn un o sawl cwmni sydd wedi cael ei dargedu a bod y hacwyr yn gofyn am £200 mewn arian cyfrifiadurol, bitcon, i gael y wefan yn ôl.

Bwriad cwmni Sain, un o’r cwmniau y tu ôl i Apton, i ddechrau oedd talu’r pridwerth, ond ar ôl cael cyngor gan yr heddlu, mae’r cwmni wedi penderfynu na fyddan nhw’n gwneud hynny, rhag i’r hacwyr ofyn am fwy o arian.

Mae’r cwmni’n dweud nad oes unrhyw beryg i gyfrifon personol pobol sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth.

Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Dafydd Roberts o gwmni Sain, un o’r cwmnïau sydd y tu ôl i Apton, dylai’r gwasanaeth fod yn ei ôl fel arfer o fewn y tridiau nesa’.