Mae cyfle i fandiau newydd o Gymru gystadlu am wobr o £1,000 a’r cyfle i berfformio ym Maes B yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2017.

Mae modd i’r bandiau gyflwyno ceisiadau o heddiw ymlaen, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Gwener, Chwefror 3.

Wedi hynny, fe fydd cyfres o rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal gyda’r rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Awst 9.

Chroma, grŵp o Bontypridd, ddaeth i’r brig o blith ugain o fandiau yn y gystadleuaeth eleni. Ers hynny maen nhw wedi cynnal cyfres o gigs ac wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, sef ‘Claddu 2016’.

Beth arall mae’r band buddugol yn ennill?

–          £1,000 i’r band buddugol

–          Cyfle i berfformio set ym Maes B

–          Cyfle i berfformio sesiwn ar Radio Cymru

–          Cyfle i ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C

–          Erthygl yng nghylchrawn Y Selar.

–          Bydd gwobr hefyd o £100 i gerddor gorau’r gystadleuaeth

–          Bydd cystadleuwyr y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora gan Radio Cymru.

Mae rheolau ac amodau’r gystadleuaeth ar wefan Maes B lle mae modd i’r bandiau gyflwyno’u ceisiadau.