Ar ôl naw mlynedd yn un o fandiau mwya’ Cymru bydd Y Bandana’n chwarae eu gig olaf yng Nghaernarfon heno – ac mae Gwyneth Glyn wedi cyhoeddi cân fer i ffarwelio â nhw.

Ffurfiwyd Y Bandana yn 2007 gan y brodyr Tomos a Siôn Owens, eu cefnder Gwilym Bowen Rhys, sydd hefyd yn gerddor unigol ac yn rhan o Plu gyda’i chwiorydd Elan and Marged, a Robin Jones.

Mae’r tocynnau i’r gig yn Neuadd y Farchnad wedi eu gwerthu i gyd ers wythnosau ac mae eu poblogrwydd wedi cael ei gydnabod gan Gwobrau’r Selar dros y blynyddoedd gan iddyn nhw ennill y wobr am y Band Gorau dair blynedd yn olynol yn 2010, 2011 a 2012.

Yn ogystal,  mae’r awdur a’r cerddor Gwyneth Glyn heddiw wedi postio cân ffarwel i’r band wedi iddi sgwennu cerddoriaeth i gyd-fynd efo un o’r cerddi ‘sgwennodd hi fel rhan o Her 100 Cerdd yn gynharach y mis hwn.

Mae’r gan i’w chlywed yma: http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-blog/100-cerdd-62-ta-ta-bandana/