Caerdydd fydd yr unig ddinas yng ngwledydd Prydain i groesawu’r band Coldplay a’u sioe deithiol A Head Full Of Dreams yn 2017.

Ers mis Mawrth eleni mae’r sioe, sydd wedi ei henwi ar ôl seithfed albym stiwdio Coldplay, wedi diddanu dros 2.5 miliwn o bobol ledled y byd.

Cyn dod i Stadiwm y Principality, Caerdydd ar 11 Gorffennaf, fe fydd Chris Martin a’i fand yn chwarae i gynulleidfaoedd yn Awstria, Ffrainc, Gwlad Belg, Sweden a’r Eidal.

Fe fydd tocynnau i’r gig yng Nghaerdydd yn mynd ar werth am 9:00yb ar 7 Hydref.